Mae’r rhain yn ddolenni allanol ac yn agor mewn ffenest newydd
Image copyrightHawlfraint y Goron:Image caption
Mae'r ddau gylch amlwg o amgylch beddrod o'r Oes Efydd yn dystiolaeth newydd sydd wedi dod i'r golwg yn Goginan, Ceredigion, credir ei fod hefyd wedi ei ddefnyddio ar gyfer claddedigaethau canoloesol.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd roedd haf 2018 ymysg y poethaf sydd wedi ei gofnodi yn y DU ers dechrau cadw cofnodion yn 1910.
Fe gyrhaeddodd y tymheredd lefelau tebyg i 1976, 2003 a 2006, sef y poethaf ar gofnod yn ôl meterolegwyr.
Fe wnaeth y tir sych a'r gostyngiad mewn lefelau dŵr ddatgelu rhai arwyddion o'r gorffennol wrth i ddŵr cronfeydd fel Tryweryn a Brianne ostwng ac olion cnydau ymddangos yn y tirwedd.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi bod yn hedfan dros Gymru i gofnodi olion archaeolegol sydd wedi dod i'r golwg mewn marciau neu batrymau yn y cnydau.
Image copyrightHawlfraint y GoronImage caption
Marciau cnydau'n dangos darn mawr o dir wedi ei amgáu yn y cynoesau gyda siâp aneglur seiliau yr hyn sy'n edrych fel fila Rhufeinig ym Mro Morgannwg.
Mae'r olion yn ymddangos am fod planhigion sy'n tyfu mewn hen ffosydd neu gafnau yn tyfu'n well a mwy trwchus nac ar dir â phridd mwy bas.
Image copyrightHawlfraint y Goron CBHCImage caption
Fferm o'r Oes Haearn ger Hendy-gwyn, Sir Gâr.
Image copyrightHawlfraint y GoronImage caption
Marciau cnydau'n dangos mynwent fawr o'r Oes Efydd ym Mhenrhyn Llŷn.
Image copyrightHawlfraint y Goron CBHCImage caption
Olion adeiladau caer Rufeinig Caerhun yn dangos yn y tir sych yn Nyffryn Conwy.
Er na ostyngodd y dŵr mewn cronfeydd i lefelau sydd wedi eu gweld mewn blynyddoedd blaenorol, roedd 'na olion o'r aelwydydd a'r cymunedau oedd wedi byw unwaith yn y cymoedd a foddwyd.
Image copyrightSarah JonesImage caption
Ffermdy'n dod i'r golwg wrth i Lyn Brianne sychu.
Image copyrightMabon ap GwynforImage caption
Daeth plac a osodwyd yn ystod sychder 1986 i ddangos lleoliad ffermdy'r Garnedd Lwyd yng Nghapel Celyn i'r golwg eto yn haf 2018.
Image copyrightMabon ap GwynforImage caption
Wal gerrig yn Llyn Celyn a thŵr cronfa Tryweryn yn y pellter.
Image copyrightClive WilliamsImage caption
Siâp y cwm yn dod i'r golwg yng nghronfa Carreg-ddu, Cwm Elan.
Image copyrightIestyn HughesImage caption
Gwely afon Tywi yn dod i'r golwg ger cronfa ddŵr Llyn Brianne, Sir Gaerfyrddin.
Fe wnaeth y tywydd a'r tir sych hefyd arwain at danau mawr ar fynyddoedd y de a'r gogledd gan ddifetha'r tirwedd a'r pethau sy'n byw arno.
Image copyrightRyan EvansImage caption
Sut mae'r tir yn cael ei ddifetha gan danau mynydd fel y tân ar Fynydd Maerdy ddiwedd Mehefin...
Image copyrightRyan EvansImage caption
...a'r bywyd gwyllt sy'n dioddef yn y tanau
Felly, wrth inni ffarwelio â haf braf 2018, a gan gofio'r eira gafon ni ddechrau'r flwyddyn, edrychwn ymlaen i weld beth fydd gan y gaeaf i'w gynnig inni eleni!