Achub menyw wedi iddi syrthio o glogwyn yn Sir Benfro

Cyhoeddwyd
damwain creigiauFfynhonnell y llun, GEOGRAPH/MIKE GRAHAM
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y fenyw ei hanafu ar ôl syrthio 80 troedfedd o glogwyn ger Castellmartin

Cafodd menyw ei hanafu ar ôl syrthio 80 troedfedd tra'n dringo creigiau yn Sir Benfro.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i glogwyni ger Castellmartin tua 16:00 ddydd Gwener.

Fe gymrodd ddwy awr a hanner i dimau achub a pharafeddygon ei hachub.

Cafodd y wraig anafiadau i'w choes a dywedodd y gwasanaethau brys ei bod hi'n cael trinidaeth yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.