Canlyniadau TGAU: Gostyngiad pellach yng ngraddau A*-C

Bethan Lewis
Gohebydd Addysg BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion TGAU Cymru, gan gynnwys disgyblion Ysgol Bro Morgannwg

Mae canlyniadau arholiadau TGAU eleni'n dangos gostyngiad pellach yng nghyfradd y graddau rhwng A* i C yng Nghymru.

Ond mae'r rheoleiddiwr cymwysterau wedi rhybuddio bod newidadau i batrwm a nifer y disgyblion a safodd yr arholiadau yn gynharach yn yr haf wedi effeithio ar ganlyniadau.

Dangosodd canlyniadau ddydd Iau fod 61.6% o fyfyrwyr wedi ennill graddau da, o'i gymharu â 62.8% yn 2017.

Ond roedd y gyfran a gafodd A*-A yn uwch na'r llynedd, ar 18.5%

Mae'r gyfran a gafodd raddau A* i C ar ei hisaf ers 2005, ond dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod wedi aros yn "gymharol sefydlog", ac nad oedd canlyniadau eleni yn cynnig "unrhyw gasgliadau cadarn".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,
Disgyblion yn Ysgol Ffynone House, Abertawe yn dathlu

Mae'r nifer a gofrestrodd i wneud arholiadau TGAU eleni 13% yn is na llynedd.

Yn ôl Cymwysterau Cymru mae diwygio pellach a newidiadau i'r ffordd mae ysgolion yn cael eu mesur wedi cael effaith ar nifer y disgyblion sydd wedi sefyll rhai pynciau TGAU.

Dywedodd un arbenigwr addysg bod yna "gwymp arwyddocaol iawn" yn nifer y rhai oedd wedi sefyll TGAU flwyddyn yn gynnar.

Llynedd roedd 63,310 o gofrestriadau i ddisgyblion 15 oed ym Mlwyddyn 10, ond eleni roedd 14,285 - gostyngiad o 78%.

"Mae effaith cofrestriadau cynnar wedi bod yn eithaf arwyddocaol," meddai Gareth Evans, sy'n gyfarwyddwr polisi addysg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

"Dim ond yn hwyr llynedd gyflwynodd Kirsty Williams ei pholisi newydd a'n barod ry'ch chi wedi gweld cwymp mawr yn nifer y cofrestriadau cynnar."

Llynedd roedd y nifer gafodd A* i C yr isaf ers 2006, ond yn ôl y rheoleiddiwr roedd y cofrestriadau cynnar yn ffactor pwysig.

Mae gostyngiad o 78% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 10 yn bennaf cyfrifol am ostyngiad yn y cofrestriadau drwyddi draw.

Eleni mae disgyblion wedi sefyll arholiadau am 15 TGAU newydd am y tro cyntaf, gan gynnwys 6 TGAU gwyddoniaeth newydd.

Mae yna gynnydd mawr yn nifer y disgyblion sydd wedi sefyll y TGAU gwyddoniaeth ac mae Cymwysterau Cymru yn amcangyfrif y byddai rhyw 40% wedi sefyll y BTEC yn y gorffennol.

Dadansoddiad Bethan Lewis:

Wrth drafod y darlun dros Gymru gyfan, y neges glir ar ddiwrnod canlyniadau TGAU yw bod 'na ddim neges glir!

Mae'r prif fesur, sef canran y graddau A* i C, wedi gostwng ers dwy flynedd bellach i'r isaf ers dros ddegawd ond eto mae canran y graddau uchaf i fyny.

 chymaint o ffactorau'n cael effaith posib, mae'n gwneud hi'n anodd iawn gweld beth yw'r darlun mawr.

Yn cyfarch disgyblion ym Mhontypwl heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg y byddai'n ddwy neu dair blynedd cyn gallu cyrraedd casgliadau pendant am y canlyniadau sy'n draddodiadol wedi eu gweld fel mesur o gyflwr system ysgolion Cymru.

Ond gan gydnabod bod yna gymhlethdod, fydd hynny ddim yn atal y gwrthbleidiau rhag tynnu sylw at broblemau cyllido ysgolion a chwestiynu ydy ymdrechion y llywodraeth i wella safonau addysg yn gweithio.

Disgrifiad o’r llun,
Croesawodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n astudio pynciau gwyddonol

Wrth longyfarch disgyblion ac athrawon ar eu canlyniadau, croesawodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y cynnydd yn y nifer sy'n astudio'r pynciau gwyddonol: "Mae heddiw'n arwydd o newid mawr mewn Gwyddoniaeth yng Nghymru.

"Mae nifer y cofrestriadau wedi cynyddu 50%, gyda nifer uwch yn ennill graddau A*-C ac yn ennill y graddau uchaf mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg.

"Dengys hyn y pwys yr ydym ni ac ysgolion yn ei roi ar y pwnc hwn ac rwy'n hyderus y byddwn ni, gyda'n gilydd, yn mynd o nerth i nerth fel y gwelwyd yr wythnos ddiwethaf yn y canlyniadau Safon Uwch."

'Siomedig'

Ond tra'n llongyfarch disgyblion, mynegodd llefarydd addysg Plaid Cymru ei siom yng ngostyngiad y graddau rhwng A* - C.

Dywedodd Llyr Gruffydd: "O gofio'r gostyngiad enfawr yn nifer yr ymgeiswyr o'i gymharu â'r llynedd, roedden ni'n gobeithio gweld cynnydd yng nghyfradd graddau A*-C.

"Mae felly'n siomedig fod y prif ystadegyn i lawr eto eleni.

"Mae'r bwlch rhwng cyrhaeddiad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn drawiadol."

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Darren Millar AC fod y gostyngiad yn golygu bod rhai disgyblion "yn cael eu gadael ar ôl".

"Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld tablau rhyngwladol yn gosod Cymru gyda'r gwaethaf o fewn system addysg y DU, ac mae problemau'n parhau o ran hyfforddi athrawon a safonau addysg.

"Wedi dwy flynedd yn arwain y system addysg yng Nghymru... rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet wella'i pherfformiad ar frys er mwyn sicrhau gwelliannau yn safon addysg ein hysgolion."

Graddau gwahanol i Loegr

Graddau A* i G mae disgyblion Cymru'n parhau i dderbyn, wrth i Loegr ddefnyddio graddau o naw i lawr at un.

Yn ôl Mr Evans mae'n amhosib cymharu perfformiad y ddwy wlad bellach.

"Mae'n anodd iawn, rwy'n meddwl, i rieni a rheini sydd ddim â diddordeb manwl mewn cymwysterau o ran be mae rhain yn golygu, ac a oes modd cymharu bellach", meddai.

"Fe fydden i'n dadlau nad yw cymharu TGAU Cymru a Lloegr yn bosib bellach ac rwy'n meddwl y byddai'n anghywir i ni ddod i gasgliadau pendant ynglŷn â pherfformiad yn gwella neu waethygu."

Serch hynny, mae Cymwysterau Cymru yn dweud, i'r unigolyn, bod TGAU yr un mor anodd ac yn cyfrif am yr un faint yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.