Y Cymro ddaeth â dŵr glân i Lundain

  • Cyhoeddwyd

Ar ddechrau'r bymthegfed ganrif, roedd dinas Llundain yn tyfu'n gyflym - yn rhy gyflym yn ôl rhai- ac roedd y cyflenwad dŵr i'r ddinas yn annigonol i gynnal y boblogaeth.

Mi allai'r dref fod wedi stopio tyfu ac aros yr un maint, ac efallai peidio â datblygu i fod yn ddinas lewyrchus fel y mae heddiw oni bai am gyfraniad un Cymro.

Ganwyd Syr Hugh Myddelton yn 1560 yn chweched mab i Richard Myddelton, oedd yn llywodraethwr Castell Dinbych ac yn aelod seneddol i'r ardal.

Fel y chweched o 16 o blant, roedd yn gyffredin i blant bonheddwyr i ennill eu crwstyn yn annibynnol o arian y teulu, a llwyddodd Syr Hugh i wneud hyn yn llwyddiannus iawn.

Symudodd Hugh i Lundain i wneud ei ffortiwn yn 1576 a gafodd ei wneud yn brentis i ofaint aur. Tyfodd i fod yn llwyddiannus iawn yn y rôl a chafodd ei wneud yn Ofaint Tlysau'r Brenin i Iago'r cyntaf.

Gyda'i gefndir fel gemydd llwyddiannus, datblygodd i fod yn entrepreneur ac roedd yn llwyddiannus iawn yn mewnforio ac allforio nwyddau a brethynnau o bob rhan o'r byd ar adeg pan nad oedd hyn yn gyffredin o gwbl.

Erbyn 1597, roedd yn rhannu ei amser rhwng Llundain a Dinbych, a chafodd ei wneud yn aldramon a chofiadur o dan siarter newydd tref Dinbych yn 1596.

Erbyn 1603, roedd wedi'i ethol yn aelod seneddol yr ardal, gan olynu ei dad yn y rôl, ond doedd hyn hyd yn oed ddim yn ddigon i Syr Hugh.

Ffynhonnell y llun, Fin Fahey
Disgrifiad o’r llun,
Cerflun yn coffau Syr Hugh Myddelton yn Islington Green

Roedd yn gweld bod twf aruthrol Llundain yn dod â phroblemau glendid sylweddol, ac roedd dyfodol y ddinas yn ddibynnol ar ddarganfod ffordd o gyfleu digon o ddŵr glân i alluogi'r ddinas i barhau i ddatblygu.

Fel aelod seneddol, roedd yn aelod o Bwyllgor Seneddol oedd yn edrych ar y posibilrwydd o drosglwyddo dŵr o'r afon Lea yn Sir Hertford yn uniongyrchol i Lundain.

Doedd Syr Hugh ddim yn rhan o'r broses o adeiladu'r gamlas pan ddechreuwyd y gwaith yn 1604.

Ond ar ôl i'r prosiect redeg mewn i drafferthion ariannol, gwelodd ei gyfle a chymrodd drosodd fel peiriannydd a chyllidwr prosiect 'Yr Afon Newydd' yn 1609.

Ffynhonnell y llun, Stephen Dawson
Disgrifiad o’r llun,
Adeilad 'New Gauge' hanner ffordd rhwng Hertford a Ware ar afon Lea. Man cychwyn yr Afon Newydd sydd yn dechrau'i daith i Lundain o flaen yr adeilad

Cynlluniodd y gamlas fel ei fod yn dilyn y tirwedd, fel byddai afon, a disgyrchiant sydd yn cario'r dŵr ar hyd yr 38 milltir rhwng Ware a'r safle yn Llundain yn agos i safle Theatr Sadlers Wells heddiw lle'r oedd y gamlas yn gorffen.

Mae'n bwysig cofio fod hyn rhyw 200 mlynedd cyn i'n sustem camlesi presennol gael ei hadeiladu gan beirianyddion oes Fictoria, ac felly roedd yn dasg enfawr, gyda mwyafrif y gwaith i gyd yn cael ei wneud gyda llaw a chaib a rhaw.

Agorwyd yr 'afon' yn swyddogol ym mis Medi 1613. Syr Hugh Myddelton oedd ei lywodraethwr cyntaf oherwydd ei fod wedi ariannu hanner cost y prosiect gyda'i arian personol (Brenin Iago'r cyntaf oedd yn gyfrifol am yr hanner arall).

Aeth ymlaen i berchen ar fwyngloddion plwm ac arian yng Ngheredigion ac oherwydd ei arbenigedd a'i brofiad peirianyddol, llwyddodd i ddatblygu'r busnes i un proffidiol dros ben.

Yn ystod ei oes, datblygodd y dyn amryddawn yma i fod yn arbenigwr ym meysydd gemwaith, masnachu rhyngwladol a pheirianneg, a llwyddodd i wneud ffortiwn ariannol sylweddol iawn o'r holl feysydd.

Bu farw yn Llundain yn 1631 ac mae wedi'i gladdu yn eglwys St. Matthew Friday Street.

Ffynhonnell y llun, Lonpicman
Disgrifiad o’r llun,
Mae Syr Hugh Myddelton yn un o'r bobl prin sy'n cael ei goffau gyda cherflun ar adeilad y Royal Exchange yn Llundain

Mae'n cael ei goffau'n sylweddol o gwmpas y ddinas. Mae cerflun ohono ar Islington Green ac mae'n un o'r ychydig pobl sydd yn cael ei goffau gan gerflun fel rhan o adeilad y Royal Exchange.

Mae ei enw hefyd yn ymddangos yn helaeth mewn llawer o'r strydoedd o gwmpas man terfyn yr Afon Newydd gydag ardal lewyrchus Sgwâr Myddelton yn ganolbwynt ar ei ddylanwad i ddatblygiad y ddinas.

Ac o ran Cymru? Wel, ar sgwâr Rhuthun, mae plac yn coffau ei amser yn berchen ar dŷ ar y sgwâr.

Mae hefyd yn cyfeirio'n fyr at ei gyfraniad i ddatblygiad llwyddiannus dinas fawr sydd dros 200 milltir i ffwrdd.

Disgrifiad o’r llun,
Plac yn cofio'r bonheddwr ar sgwâr Rhuthun