Y tenor Kenneth Bowen wedi marw yn 86 oed
- Cyhoeddwyd

Yn 86 oed bu farw'r tenor a'r cyfarwyddwr cerdd Kenneth Bowen yn Cheltenham.
Cafodd Dr Bowen ei eni yn Llanelli a'i addysgu ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a Chaergrawnt.
Yn ystod y chwedegau enillodd nifer o wobrau cerdd o bwys ac roedd yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru, Lloegr ac Ewrop.
Bu'n perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyson gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Opera a'r English National Opera.
Am flynyddoedd roedd yn bennaeth ar Astudiaethau Llais yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.
Roedd yn nodedig am berfformio gweithiau cerddorol am y tro cyntaf.
'Bonheddwr urddasol'
Ysgrifennodd y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards y gyfres 'Caneuon y Tri Aderyn' sy'n cynnwys 'Mae Hiraeth yn y Môr' yn benodol i Kenneth Bowen.
Roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Rhwng Chwefror 1983 a Rhagfyr 2008 ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd Corâl Cymru Llundain, bu'n is-lywydd y Cymmrodorion ac yn 2003 cafodd radd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Roedd Siân Meinir, sy'n wreiddiol o Ddolgellau, yn ddisgybl iddo yn yr Academi Frenhinol yn Llundain a'r geiriau cyntaf sy'n dod i'w meddwl wrth ei ddisgrifio yw "bonheddwr urddasol".
Dywedodd: "Roedd e'n gerddor deallus, yn sgolor - yn ddyn hynod o alluog.
"Fe ddes i ar ei draws gyntaf pan oedd yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol - roedd e'n feirniad cyson.
"Mae rhywun yn meddwl amdano fel perfformiwr gwaith Mozart a 'The Dream of Gerontius' Elgar wrth gwrs.
"Roedd e'n fyd enwog - mae rhywun yn meddwl am ei lais crwn cyfoethog - llais pwerus.
"Er ei fod wedi byw yn Llundain am hir roedd Cymru yn agos at ei galon - roedd e'n gwneud lot fawr gyda Chymry Llundain a gan ei fod yn gyfarwyddwr y Corâl roedd e'n rhoi sawl cyfle perfformio i gantorion fel fi.
"Roedd e'n arweinydd hynod o grefftus ond yn bennaf mi fyddai i'n ei gofio fel cerddor disglair galluog a bonheddwr urddasol."