Dynes yn y llys wedi'i chyhuddo o ddynladdiad ei babi
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o ddynladdiad ei babi blwydd oed.
Wnaeth Sarah Morris, 34, o'r Stryd Fawr, Bagillt yn Sir y Fflint ddim cyflwyno ple pan ymddangosodd hi o flaen ynadon yn Yr Wyddgrug ddydd Llun.
Cafodd fechnïaeth ddiamod ac fe fydd hi'n ymddangos nesaf yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 5 Hydref.
Yr honiad yw bod merch Ms Morris, Rosie, wedi boddi mewn bath yn ei chyn-gartref yn Greenfield, Treffynnon ym mis Gorffennaf 2015.