Golwg yn 30: Rhai o'r cloriau cofiadwy a barn y sylfaenydd

Image copyright Golwg

Mae cylchgrawn Golwg yn dathlu 30 mlynedd mewn print ar 6 Medi.

Un sydd wedi bod yno o'r cychwyn cyntaf, mewn amryw i swydd, ydy'r sylfaenydd Dylan Iorwerth.

Mae llawer wedi newid am y cylchgrawn yn y cyfnod hwnnw, o ran cynnwys ac edrychiad. Ond mae'r pris gwerthu wedi aros yn gymharol isel.

60c oedd pris y copi cyntaf. £1.75 mae'n ei gostio heddiw. Felly pam ddim codi'r prisiau, siawns y byddai'r ffyddloniaid yn aros?

Chwaraeon Image copyright Golwg
Image caption Geraint Thomas (Awst 2018) a Ryan Giggs (Mai 1994) - rhai o sêr chwaraeon amlycaf Cymru ar gloriau Golwg

"'Da ni ddim yn meddwl ddylia ni gosbi neb am eu ffyddlondeb," meddai Dylan Iorweth - teitl ei swydd bresennol: golygydd gyfarwyddwr cwmni Golwg.

"Rhan o'r nod drwy'r amser ydy cyrraedd darllenwyr a ti ddim isio'r pris fod yn rhwystr i hynny.

"Ma' pris [printio ar bapur] yn codi'n gyson, dyna ydy'r un peth sy'n effeithio ar y pris gwerthu. Ond y newid mawr oedd y chwalfa economaidd yn 2008.

"Mae'r economi yng Nghymru yn dibynnu'n ofnadwy ar arian cyhoeddus - nid dim ond cynghora' ond cwmnïa' hefyd yn y pen draw - a'r munud mae 'na wasgfa, mae hynny'n effeithio ar hysbysebion ac ati.

"Felly mae'r cyfnod dwytha' 'ma wedi bod yr anodda' 'da ni wedi'i gael. Ond 'da ni 'di bod yn llwyddiannus ar hyd y blynyddoedd ac oherwydd hynny 'da ni'n gallu byw trwy'r cyfnod yma hefyd."

Y clawr cyntaf erioed yn 1988 Image copyright Golwg
Image caption Y clawr cyntaf erioed ym mis Medi 1988

Ond mewn oes lle mai'r digidol sy'n teyrnasu, pa obaith sydd gan Golwg o gyrraedd 35 neu 40 oed yn ei ffurf bresennol?

"'Da ni'n gweld gwerth mewn cylchgrawn print," meddai'n bendant.

"Yn sicr fyswn i'n gobeithio bysa ni'n gallu [dathlu 40 mlynedd], mae edrych tu hwnt i hynny yn anodd iawn, iawn.

"Ond dwi'n credu y bydd 'na wastad bobl fydd isio y math o stwff ti'n gallu ei gael mewn cylchgrawn print ac isio ei ddarllan o yn y ffurf yna.

"Dydy e-lyfrau, er enghraifft, ddim wedi llwyddo fel oeddan nhw'n ddisgwyl. Os ti'n edrych ar hanes gwahanol ddulliau o gyfathrebu, mae gan bopeth ei le a dwi'n bendant y bydd 'na le i gylchgrawn fel Golwg yn y dyfodol.

"Fyswn i'n licio meddwl y bydd [gwefan] golwg360 yn datblygu lot yn y dyfodol ond fydd hynny ddim ar draul y cylchgrawn.

"Ar hyn o bryd, 'da ni'n sicr yn gweld bod y ddau beth yn gweithio'n dda efo'i gilydd."

Dylan Iorwerth
Image caption Dylan Iorwerth, y newyddiadurwr ifanc, yn 1986 - dwy flynedd cyn sefydlu cylchgrawn Golwg

Mae 'na sawl newyddiadurwr ifanc wedi cael eu haddysg gynnar yn swyddfeydd Golwg ar hyd y blynyddoedd.

Ond ydy gweld cynifer yn symud ymlaen, mor gyflym, yn destun balchger neu'n rhwystredigaeth?

"'Da ni'n falch o weld pobl yn datblygu a bod ni wedi gallu cyfrannu at ddechrau gyrfa ond mae o'n rhwystredig pan ti'n meddwl: 'reit, ma' gen i newyddiadurwr da yn fan hyn' ond maen nhw'n symud i rywle arall.

"Ond mae'n rhaid bod ni'n g'neud r'wbath yn iawn.

"Fysa ni'n licio cynnig mwy o gyfleoedd wrth gwrs ond dwi'n falch hefyd bod ni'n llwyddo i ddechrau pobl mewn newyddiaduraeth brint achos dwi'n meddwl bod 'na werth mawr i newyddiaduraeth brint a'r sgiliau mae rhywun yn eu meithrin.

"Mae'n rhy hawdd dyddia' yma i dderbyn [straeon] sy'n dod i fewn heb orfod chwilio amdano fo a dwi'n meddwl mai dyna ydy'r peth ti'n gorfod g'neud efo cwmni cymharol fach, i 'neud stwff gwreiddiol sy'n wahanol i bawb arall."

line break

Hefyd o ddiddordeb:

Sefydlodd Dylan Iorwerth y cwmni - sy'n gyfangwbl ddi-elw - yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd hyn yn rhannol, meddai, o achos amgylchiadau personol (roedd wedi symud yno i fyw), ond roedd yna fwriad i'r penderfyniad hefyd.

"Roedd lot o bethau yn mynd i Gaerdydd a Chaernarfon ac mi oedd 'na beryg bod ardaloedd yn y gorllewin yn cael eu hanghofio.

"Mae pobl yn anghofio'n bod ni'n hollol ganolog - tua dwy awr a hanner o bob cwr o Gymru. 'Da ni'n falch iawn o fod yn Llambed ac yn teimlo'n bod ni'n g'neud cyfraniad trwy fod yma."

Image copyright Golwg

Cyn sefydlu Golwg, roedd Dylan Iorwerth wedi mynd ati i lansio Sulyn ar ddechrau'r 80au - papur newydd wythnosol yn ardal Gwynedd.

Er mai byr oedd oes Sulyn, mae Dylan Iorwerth yn siomedig nad oes mwy o fentergarwch newyddiadurol ymysg pobl ifanc heddiw.

"Mae 'na lai a llai o gyfryngau newyddiadurol, yn enwedig rhai proffesiynol, drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

"Mae pethau fel yr Herald Cymraeg wedi mynd, y Cymro wedi troi i fod yn rhyw fath o gylchgrawn misol. Hyd y gwela' i ni ydy'r unig gorff proffesiynol cenedlaethol Cymraeg - oni bai am y BBC - sy'n weithredol."

Ar gefn llwyddiant Golwg, cafodd cylchgronau eraill eu sefydlu yn y 90au dan ymbarél cwmni Golwg - Wcw a'i Ffrindiau, misolyn i blant a Lingo Newydd, i ddysgwyr.

Ac, wrth gwrs, daeth gwefan newyddion golwg360 i fodolaeth yn 2009.

"Mae o'n 'chydig o siom i fi nad oes 'na neb arall wedi g'neud dim byd newydd sbon - ar lefel broffesiynol be' bynnag - ers tro byd.

"Fyswn i wedi licio gweld lot mwy o bobl ifanc yn rhoi cynnig ar r'wbath newydd."

Image copyright Golwg

Felly beth nesa' i Golwg?

"O ran y cylchgrawn dwi'm yn gweld newidiada' anferth yn y tymor byr," meddai.

"Be' fydd yn gorfod datblygu ydy'r berthynas rhwng y cylchgrawn a golwg360, a gweld sut allwn ni 'neud i'r ddau beth elwa ac atgyfnerthu ei gilydd heb fynd â tir ei gilydd.

"Cenhadaeth y cwmni ydy datblygu pethau newydd ym maes newyddiaduraeth yn y Gymraeg ac yn amlwg 'da ni isio chwilio am gyfleoedd i 'neud hynny, er y bydd arian masnachol yn anodd i gyhoeddiadau print - ond 'da ni'n dal i anelu at ddatblygu."