Marwolaeth Ashley Talbot: Gwrandawiad yn Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
Ashley TalbotFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Ashley Talbot, 15 oed, wedi iddo gael ei daro gan fws mini ar dir Ysgol Maesteg yn Rhagfyr 2014

Bydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu gwrandawiad yn Llys y Goron am gyhuddiadau yn ymwneud â iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth bachgen 15 oed yn Ysgol Uwchradd Maesteg.

Cafodd Ashley Talbot ei daro gan fws mini a oedd yn cael ei yrru gan athro ar dir yr ysgol ym mis Rhagfyr 2014.

Ni chafodd yr athro ei erlyn, ond mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi honni bod y cyngor wedi methu cyflawni ei ddyletswydd iechyd a diogelwch.

Cafodd ynadon yng Nghwmbrân wybod mai'r dechreubwynt ar gyfer unrhyw ddirwy bosib yw £4.2m a bod yr achos wedi cael ei anfon i Lys y Goron Casnewydd.

Clywodd y llys bod y troseddau honedig dan sylw yn dyddio o'r diwrnod agorodd yr ysgol ar 1 Medi 2008 tan y diwrnod wedi'r "ddamwain angheuol gyda'r plentyn".

Dywedodd yr erlyniad mai'r gosb uchaf posib oedd modd ei roi yn llys yn yr ynadon oedd £20,000, gan hefyd ddadlau mai "dechreubwynt" unrhyw gosb fyddai £2.4m.

Dadleuodd yr erlyniad y dylai'r achos fynd i Lys y Goron a dywedodd yr amddiffyniad nad oeddent yn gwrthwynebu hynny.

Bydd yr achos yn cael ei gyflwyno i Lys y Goron Casnewydd ar 17 Medi.