Mwy o blant ag asthma'n mynd i'r ysbyty ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Asthma

Mae elusen wedi datgelu bod nifer y plant sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd asthma yn cynyddu'n aruthrol yn dilyn gwyliau'r haf.

Yn ôl elusen Asthma UK, mae cynnydd o 210% mewn plant yn mynd i'r ysbyty yn dioddef o byliau gwael o asthma ym mis Medi o gymharu â mis Awst.

Diffyg trefn arferol y gwyliau sy'n cael ei ystyried yn un ffactor sy'n achosi'r cynnydd.

Dywedodd arweinydd clinigol yr elusen bod angen i rieni ac oedolion sy'n gyfrifol am blant ag asthma fod yn ymwybodol o beth sydd angen ei wneud petai plentyn yn dioddef o bwl gwael.

Anghofio rhoi meddigyniaeth

Yn ôl ffigyrau'r elusen, mae 58,000 o blant yng Nghymru yn dioddef o asthma, cyflwr sy'n golygu bod pobl yn ei chael hi'n anodd anadlu.

Mae'n bosib mai diffyg trefn arferol yn ystod y gwyliau haf sy'n arwain at broblemau erbyn i'r plant ddychwelyd i'r ysgol, gyda rhieni o bosib yn anghofio rhoi meddyginiaethau ataliol i'w plant.

Dywedodd Dr Andy Whittamore, arweinydd clinigol Asthma UK: "Dylai dychwelyd i'r ysgol fod yn gyfnod cyffrous i blant, ond gall nifer orfod mynd i'r ysbyty ar ôl pwl gwael o asthma.

"Mae hyn yn peri gofid i blentyn a'i rieni - gofid sy'n gallu cael ei osgoi os ydy rhieni'n gallu adnabod pwl gwaeth na'r arfer o asthma, ac yn gwybod beth i wneud."

Mae Rich Cook, 40 oed, o Gwmbrân yn gwybod yn union sut all dychwelyd i'r ysgol effeithio ar asthma plentyn.

Bu'n rhaid i'w fab, Harry, fynd i'r ysbyty wedi iddo gael pwl drwg o asthma fis Medi diwethaf, pan oedd yn bump oed.

Dywedodd Mr Cook: "Roedd yn frawychus derbyn galwad wrth ysgol fy mab yn dweud ei fod yn cael pwl drwg o asthma.

"Roedd athrawon wedi ceisio rhoi ei anadlydd cymhwythol iddo, ond roedd y pwl yn rhy ddrwg a chafodd ei rhuthro'n syth i'r ysbyty.

"Does yna'r un rhiant sydd am weld ei blentyn mewn uned gofal dwys yn gofyn, "Dadi, ydw i'n mynd i farw?"'

Yn ôl Mr Cook: "Digwyddodd pwl asthma Harry mor sydyn. Y bore hwnnw roeddwn yn ei ollwng yn yr ysgol ac roedd pob dim yn iawn, ac erbyn i fi ei weld eto roedd yn yr ysbyty yn brwydro am ei fywyd."

Mae Asthma UK yn argymell defnyddio anadlydd cymhwythol (sydd fel arfer yn las) a ddylai leddfu'r symptomau am oddeutu pedair awr.

Fodd bynnag, os nad ydy'r anadlydd yn gweithio am y cyfnod hwnnw neu os ydy'r symptomau'n gwaethygu, dylid cysylltu'n syth gyda'r meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru.

Yn ôl Dr Whittamore, ni ddylai rhieni deimlo na ddylent wneud apwyntiad brys gyda meddyg teulu neu nyrs asthma os ydy eu plentyn yn defnyddio eu hanadlydd mwy na thair gwaith yr wythnos, neu os ydynt yn peswch yn ystod y nos, neu'n cael hi'n anodd anadlu.

Mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael i rieni ac i blant ar wefan Asthma UK.