Cymru ar daith: Denmarc
- Published
Wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar 6 Medi, mae garfan Ryan Giggs yn teithio i Sgandinafia i herio Denmarc ar nos Sul, 9 Medi.
Ond faint ydych chi'n ei wybod am Ddenmarc? Dyma ambell ffaith ddiddorol...
Maint y wlad
Mae Denmarc yn 42,924 km² o faint ac mae dros 100 o ynysoedd yn perthyn i'r wlad. Felly o ystyried bod Cymru yn 20,735 km² mae'n golygu bod Denmarc bron yn union ddwywaith maint Cymru.
Poblogaeth
Mae Denmarc yn wlad o 5.8 miliwn o bobl, o gymharu gyda 3.1 miliwn sydd yma yng Nghymru.
Prifddinas
Prifddinas Denmarc yw Copenhagen. Mae'r ddinas ar arfordir dwyreiniol Sjælland (Zealand), ynys fwyaf y wlad.
Ers tua degawd mae'r boblogaeth wedi bod yn tyfu, ond roedd cyfnod o ryw ugain mlynedd cyn hynny lle'r oedd y boblogaeth yn mynd yn is ac yn is.
Mae tua 775,000 o bobl yn byw yn Copenhagen, ond mae poblogaeth fetropolitan dinas Copenhagen tua 1.9 miliwn.
Ar dy feic!
Mae 50% o drigolion Copenhagen yn teithio i'w gwaith ar eu beic yn ddyddiol. Er hyn does dim llwybrau beics, yn hytrach mae 'na ffyrdd arbennig ar gyfer y seiclwyr.
Ben Davies
Roedd amddiffynnwr Cymru, Ben Davies, yn arfer byw yn Nenmarc. Pan oedd yn wyth oed symudodd Ben a'i deulu yno pan gafodd ei dad swydd yn y wlad gyda chwmni oedd yn cynhyrchu offer gwres canolog. Roedd byw yn ninas Viborg yn Jylland (Jutland) gyda'i rieni, Alun ac Eryl.
Baner hynafol
Mae'r "Dannebrog", baner Denmarc yn dyddio nôl i 1219, ac mae'n cael ei gydnabod fel y faner genedlaethol hynaf yn y byd sydd yn parhau i gael ei defnyddio gan wlad annibynnol.
Mae hi'n anghyfreithlon i losgi baneri gwledydd tramor yn Nenmarc, ond eto mae hi'n gyfreithlon i losgi baner Denmarc - petai chi'n dymuno!
Hapusrwydd
Mae Denmarc wedi bod ar frig rhestr 'gwledydd hapusa' y byd' nifer fawr o weithiau.
Mae arbenigwyr yn meddwl bod sawl ffactor i hyn, gan gynnwys safon uchel o fywyd a gwasanaeth iechyd arbennig o dda, system addysg gryf, llywodraeth sefydlog a lefelau isel o lwgr (corruption) cyhoeddus.
Mae lefelau treth yn gymharol uchel yn y wlad, ond eto mae arolygon barn yn awgrymu fod dinasyddion y wlad yn hapus eu talu.
LEGO
Cafodd y cwmni Lego ei sefydlu yng ngweithdy Ole Kirk Christiansen gan saer coed o Billund, yn nhalaith De Denmark.
Dechreuodd y cwmni gynhyrchu blociau oedd yn bosib adeiladu ar ben ei gilydd yn 1949. Mae'r enw yn dod o'r term Daneg leg godt, a olygai "chwarae'n dda".
Pobl enwog o Ddenmarc
O'r byd chwaraeon mae'r chwaraewraig tenis Caroline Wozniacki o Ddenmarc, felly hefyd y bocsiwr Mikkel Kessler.
Mae llawer o actorion adnabyddus o Ddenmarc, fel Nikolaj Coster-Waldau (Game of Thrones), Viggo Mortensen (Lord of the Rings) ac Mads Mikkelsen (Hannibal) a Brigitte Nielsen (Rocky IV).
Mae drymiwr y band Metallica, Lars Ulrich, o ddwyrain Denmarc, ac mae'r supermodel Helena Christensen o Copenhagen.
Un o feibion enwocaf Denmarc yw'r awdur Hans Christian Andersen (1805-1875). Mae ei enw yn adnabyddus ledled y byd am ei lyfrau fel The Little Mermaid, The Snow Queen a The Ugly Duckling.
Diwydiant moch
Denmarc yw'r wlad sy'n allforio'r mwya' o borc o holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r diwydiant wedi bod yn rhan bwysig o economi'r wlad ers dros ganrif. Mae'r 28 miliwn o foch yn cael eu cynhyrchu yn y wlad bob blwyddyn.
Tîm cenedlaethol
O'r tîm presennol, Christian Eriksen - chwaraewr canol cae Tottenham Hotspur - yw'r prif seren.
Dros y blynyddoedd mae'r chwaraewyr amlycaf yn cynnwys Morten Olsen, Michael Laudrup a'i frawd Brian, Preben Elkjær Larsen, Jan Mølby a'r golgeidwad Peter Schmeichel.
Daeth awr fawr Denmarc yn 1992 wrth ennill Pencampwriaeth Ewrop a churo Yr Almaen yn y ffeinal.
Mae hi'n gwbl gyfartal rhwng Cymru a Denmarc mewn wyth gornest ers 1964: pedair buddugoliaeth i Gymru a phedair buddugoliaeth i Ddenmarc.