Cyfyngu ar oriau safle gwastraff yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Bydd oriau agor safle Gwastraff Rhydeinon, ger Llanarth, yn Nyffryn Aeron, yn cael eu lleihau.
Daeth Cabinet Cyngor Ceredigion i'r penderfyniad y dylai'r safle aros ar agor, ond am dridiau yn unig.
Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Rhagfyr gyda'r safle ar agor ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul.
Ar hyn o bryd, mae pedwar safle gwastraff yng Ngheredigion, sydd yn fwy na'r gofynion statudol.
Mae'r safleoedd eraill yn Aberteifi, Aberystwyth a Llanbedr.
Fe ddywedodd yr aelod cabinet Dafydd Edwards, sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau amgylcheddol y sir, fod lleihau oriau'r safle yn "gwneud synnwyr".
Dywed adroddiad gan swyddogion y sir mae safle Rhydeinon oedd yn cael y lleiaf o ddefnydd o ran safleoedd ailgylchu'r sir o ran cyfanswm gwastraff.
Ychwanegodd yr adroddiad: "Safle Gwastraff Rhydeinon yw'r lleiaf cost effeithiol o'r safleoedd yn nhermau cost pob tunnell sy'n cael ei phrosesu."
Dywedodd y cynghorydd Edwards: "Mae'n rhaid i ni edrych ar yr arian sy'n gallu cael ei arbed, ac mae pob ceiniog yn cyfri.
"Mae angen i ni arbed £500m o'r gyllideb gwastraff. Mae'r arbedion yn Llanarth yn fach, ond fe fydd yn helpu."