Cyngor Gwynedd: Dim newid i safleoedd ailgylchu
- Cyhoeddwyd

Ni fydd Cyngor Gwynedd yn bwrw 'mlaen gydag unrhyw gynlluniau i gau un o'i ganolfannau ailgylchu er mwyn arbed bron i £100,000.
Mae'r cyngor yn ceisio arbedion o £5m ac yn ôl y cynlluniau byddai cau un o'r wyth ganolfan presennol wedi arbed £96,000 y flwyddyn.
Ond bydd adroddiad sydd i'w drafod gan gynghorwyr ddydd Iau yn dweud y dylai'r opsiwn gael ei ddiystyru oherwydd ymateb cyhoeddus anffafriol.
Yr wyth safle ailgylchu yng Ngwynedd yw Caernarfon, Y Bala, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Harlech, Pwllheli a Garndolbenmaen.
Mae'r adroddiad gan y Cynghorydd Gareth Griffith, aelod o gabinet Gwynedd, yn dweud: "Mae'r cyfleusterau yn boblogaidd ymhlith y cyhoedd ac mae'r Adran yn ystyried fod yna gynlluniau eraill fyddai'n llai dadleuol na gwireddu'r cynllun hwn.
"Rwyf felly yn awgrymu fod y cabinet yn oedi gweithredu'r cynllun arbedion ac yn delio gyda'r bwlch sy'n cael ei greu wrth ystyried arbedion ar gyfer 2019/20 ac i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2017
- 12 Mai 2016