Morgannwg angen batio'n well i ennill

  • Cyhoeddwyd
Kieran BullFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cipiodd y troellwr ifanc Kieran Bull dair wiced i Forgannwg

Ar ôl bowlio'r tîm cartef allan am 251 ddydd Mawrth, fe gafodd Morgannwg ddiwrnod siomedig yn batio fore Mercher.

Er gwaetha dechrau derbyniol, fe gollodd yr ymwelwyr wyth wiced am 38 rhediad yn eu batiad cyntaf i adael Sir Derby gyda mantais o 130 ar ddiwedd y batiad cyntaf.

Ond yna fe gafodd y bowlwyr well hwyl arni yn ail fatiad Sir Derby.

Cipiodd Kieran Bull dair wiced, gyda dwy yr un i Michael Hogan, Ruaidhri Smith a Tim van der Gugten wrth iddyn nhw gyfyngu'r tîm cartref i 171 yn eu hail fatiad.

Daeth ergyd arall i Forgannwg wrth iddyn nhw golli wiced Stephen Cook i belen ola'r dydd, gan eu gadael yn 16 am un.

Bydd Morgannwg yn dechrau chwarae dydd Iau angen 286 am fuddugoliaeth, a gyda naw wiced yn weddill.

Sir Derby v. Morgannwg - Adran 2 Pencampwriaeth y Siroedd

Sir Derby

  • (batiad cyntaf) - 251
  • (ail fatiad) - 171

Morgannwg

  • (batiad cyntaf) - 121
  • (ail fatiad) - 16 am 1

Mae gan Sir Derby fantais o 285