Galw am lyfryn yn rhoi atebion i rieni am anableddau

  • Cyhoeddwyd
Elan a Ceris Williams
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Ceris Williams bod ei merch yn gymeriad positif, ond mae bywyd yn fwy anodd i lawer o blant ag anableddau llai gweledol

Mae mam merch naw oed sydd â pharlys yr ymennydd yn galw am ragor o drafod mewn ysgolion am blant sy'n byw gyda gwahanol anableddau.

Yn ôl Ceris Williams o Gynwyd, ger Corwen yn Sir Ddinbych, byddai mwy o wybodaeth ar gyfer rhieni plant eraill am anableddau yn gwneud hi'n haws i blant anabl gymysgu â phlant eraill.

Dywedodd bod ei merch, Elan yn barod iawn i drafod ei chyflwr ac fe ysgrifennodd lyfryn pan oedd ond yn bump oed er mwyn i ffrindiau ac athrawon allu deall sut mae'n dylanwadau ar ei bywyd bob dydd.

Mae Ms Williams yn dweud y byddai'n fuddiol i bob rhiant gael llyfryn tebyg.

Anableddau 'cudd'

"Bydden i'n hoffi gweld cefnogaeth i rieni... pan ti'n ca'l plentyn efo anabledd, ti ddim yn ca'l instruction book o gwbwl, 'da ni'n gorfod ffeindio'n ffordd ein hunain o gwmpas," meddai.

"Bydde fe'n grêt os fydd pob rhiant falle yn siarad efo plentyn nhw a jyst esbonio - os ma' 'na plentyn efo anabledd, 'dyn nhw ddim mor gwa'niaeth â hynny.

"Falle ma' nhw'n symud a meddwl yn gwa'niaeth ond maen nhw'n blentyn r'un fath â phlentyn nhw yn mynd i'r ysgol yn y bore."

Disgrifiad,

Dywed Ceris Williams bod Elan yn barod iawn i drafod ei chyflwr

Dywedodd Ms Williams bod Elan wedi cael cefnogaeth dda yn gyson yn Ysgol Bro Dyfrdwy - ysgol prif lif - ond mae'n dweud bod y sefyllfa yn amrywio ar draws Cymru, a bod pethau'n anoddach i blant ag anableddau "cudd" gan gynnwys cyflyrau at y sbectrwm awtistiaeth.

Mae hefyd yn poeni bod anwybodaeth yn arwain at labelu plant yn blant "drwg", ac yn galw am drafodaeth fwy agored ynghylch anableddau.

"Mae Elan yn bositif iawn ond 'di ddim pob plentyn fel'a. Ma' fe yn bwysig iawn bod rhieni yn helpu plant yn mynd yn ôl i ysgol a jest esbonio i 'nhw be' 'di rai o'r anableddau a sut all ffrindia' helpu plant efo anabledd hefyd."

Cwestiynau

Dywedodd y byddai'n croesawu rhoi gwybodaeth i rieni ar ddiwedd tymor yr haf - "rwbeth syml bo' rhieni'n gallu dangos y plant a gweithio efo nhw dros yr haf".

Mae llyfryn o'r fath yn cael ei ddosbarthu, meddai, mewn gwledydd fel America.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Elan yn dweud ei bod yn gobeithio cystadlu yn y Gemau Paralympaidd

Ychwanegodd bod Elan yn aml yn trafod ei bywyd gyda pharlys yr ymennydd gyda phobl eraill, heb iddyn nhw fod wedi codi'r mater yn gyntaf.

Dywedodd Elan, sy'n gobeithio bod yn fathemategydd a chystadlu yn y Gemau Paralympaidd, bod "pawb yn gofyn cwestiynau" pan roedd yn fengach yn y cyfnod cyn bod modd iddi allu defnyddio'i chadair olwyn drydanol i fynd i'r ysgol.

Roedd y llyfryn a ysgrifennodd bedair blynedd yn ôl yn cynnwys lluniau, "pethau simple fel sut mae limbs fi'n ga'l ei effecto" a rhai o'r heriau yn ei bywyd bob dydd.

Dywedodd bod staff a chyd-ddisgyblion wedi "mwynhau" cynnwys y llyfryn a'i fod wedi eu hysgogi i godi cwestiynau ynghylch anableddau.