Gwasanaeth caffael yn dod i ben 'yn ei ffurf bresennol'
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun cenedlaethol sy'n prynu nwyddau a gwasanaethau mewn blociau sylweddol yn mynd i ddod i ben "yn ei ffurf bresennol," yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.
Bwriad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) oedd arbed arian i'r sector cyhoeddus drwy ymdrin â chytundebau gwerth £1bn y flwyddyn.
Ond ni fu'r galw am y cynllun gan gyrff cyhoeddus cymaint â'r disgwyl.
Bydd fersiwn llai o'r cynllun yn cael ei greu i ddelio gyda nifer llai o gyflenwyr.
Mae'r GCC yn prynu nwyddau fel bwyd, cerbydau a gwisgoedd mewn blociau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus Cymreig.
Miliynau o golledion
Adroddodd BBC Cymru ym mis Mawrth bod y corff wedi gorfod cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi iddo wneud miliynau o golledion.
Dangosodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fod cyrff cyhoeddus ond wedi gwario £150m gyda'r GCC yn 2015-6, a £234m yn ystod y flwyddyn ganlynol.
Cafodd y corff ei feirniadu am or-amcangyfrif gwerth cytundebau bwyd i gyflenwyr, a oedd dipyn yn is na'r hyn a gafodd ei ragweld.
Pan gafodd ei sefydlu yn 2013, dywedodd yr ysgrifennydd cyllid ar y pryd, Jane Hutt, y byddai'n "ffordd Gymreig iawn o ateb gofynion busnesau Cymreig gan sicrhau gwerth am arian i'r bunt Gymreig".
Manteisio ar gyfleon
Cyhoeddodd Mr Drakeford bod yr GCC yn mynd i ddod i ben "yn ei ffurf bresennol", gan alw am adolygiad o'r corff.
Dywedodd: "Bydd ymgyrch lai yn cael ei sefydlu i reoli portffolio llai o gytundebau cenedlaethol."
Yn ôl Lee Waters AC, sydd yn aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, mae'r sector cyhoeddus yn gwario "tua £6bn bob blwyddyn yng Nghymru" ond nad oedd y llywodraeth yn "gwneud y mwyaf o'r cyfle yna".
Dywedodd Mr Waters: "Mae'r camau mae Mark Drakeford wedi eu hamlinellu yn galonogol iawn, ond rydym wedi cael trafferth yn y gorffennol cyflwyno'r cynllun yn iawn. "
Cyfaddefiad cywilyddus
Fodd bynnag, mae'r penderfyniad i ddod â'r cynllun i ben wedi dod dan y lach gan Paul Davies, arweinydd grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad.
Dywedodd Mr Davies bod y penderfyniad yn "pwysleisio agwedd di-drefn Llafur Cymru at gaffael cyhoeddus".
"Mae gwaredu'r GCC yn gyfaddefiad eithriadol o gywilyddus oddi wrth Lywodraeth Lafur Cymru bod eu polisïau caffael wedi methu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2018