Galw am beiriant ysgyfaint i achub bywydau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr 19 oed ym Mhrifysgol Caerdydd a fu'n agos at farw o sepsis yn dweud y dylai'r peiriant a achubodd ei fywyd fod ar gael yng Nghymru.
Roedd hi ond yn bosib i Tom Boyce gael ei roi ar beiriant ECMO (Extracorporeal Membrane Oxygenation) pan ddaeth tîm arbenigol ag un ato o Loegr.
Ym Mehefin roedd yna alwad am driniaeth ECMO gan deulu merch 16 oed o Gasnewydd, Lucy Ellis a fu farw o sepsis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru "na fyddai'n ymarferol" i gael canolfan ECMO yng Nghymru.
Mae pum canolfan ECMO ar gyfer oedolion yn y DU. Mae dau ohonyn nhw yn Llundain a'r gweddill ym Manceinion, Caerlŷr a Chaergrawnt.
£45,000 y claf yw cost triniaeth ECMO yn Lloegr ar gyfartaledd. Yn ôl yr elusen UK Sepsis Trust, mae tua 250,000 o achosion o sepsis yn y DU bob blwyddyn.
Roedd Tom, sy'n dod o Surrey, newydd ddechrau astudio daeareg yng Nghaerdydd pan gafodd ei daro'n wael cyn chwarae gêm o rygbi.
"Ro'n i wedi blino, yn colli 'ngwynt a 'nghalon yn curo'n gyflym ond wnes i chwarae beth bynnag," meddai. "Y bore wedyn ro'n i'n teimlo'n waeth ac fe es i'r ysbyty."
'Ffarwelio'
Mae'n cofio cyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru ond deffro mewn gwely ysbyty yn Llundain yw'r atgof nesaf wedi hynny.
Roedd ei rieni wedi rhuthro i'r ysbyty a chael rhybudd efallai na fyddai'n goroesi'r noson gan fod haint yn ei ysgyfaint wedi effeithio ar ei galon.
Dywedodd ei dad, David Boyce: "Gyda'n meibion eraill, Harry a William, fe wnaethon ni ffarwelio â Tom. Roedd yn ofnadwy - hunllef pob rhiant."
Roedd meddygon wedi dod i'r casgliad fod Tom wedi cael niwmonia cyn i'r sepsis ddatblygu.
Mewn ymgais i achub ei fywyd, fe wnaethon nhw gysylltu â thîm ECMO Ysbyty St Thomas, Llundain.
Fe deithiodd yr arbenigwyr gyda'r peiriant ECMO mewn ambiwlans i Gaerdydd yn ystod y nos, a mynd â Tom yn ôl gyda nhw i Lundain.
Treuliodd wythnos yn Ysbyty St Thomas wrth i'w ysgyfaint a'i galon wella.
Beth yw ECMO?
System cynnal bywyd - tebyg i'r un sy'n cael ei defnyddio yn ystod llawdriniaethau dargyfeiriol y galon pan nad yw'r ysgyfaint yn gweithio fel y dylen nhw.
Mae'r peiriant yn pwmpio gwaed o'r corff trwy wythïen fawr i ysgyfaint artiffisial y tu allan i'r corff.
Mae'r ysgyfaint artiffisial yn cael gwared ar garbon diocsid a rhoi ocsigen ffres yn ôl yn y gwaed, sydd yna'n cael ei bwmpio'n ôl i'r corff trwy wythïen fawr ger y galon.
Mae'r broses yn sicrhau bod gwaed ocsigenedig yn mynd trwy'r corff tra bo'r ysgyfaint yn gwella.
Dywed Tom ei fod wedi gwella'n llwyr erbyn hyn ac mae wedi ailgydio yn ei astudiaethau yng Nghaerdydd.
"Gallai ddim diolch i'r meddygon ddigon," meddai. "Wyddwn i ddim be' fyswn i wedi gwneud oni bai am y peiriant yma. Yn sicr dylai fod ar gael yng Nghymru. Fe achubodd fy mywyd i."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni oedd y wlad gyntaf trwy'r byd i gyflwyno system i sicrhau cynyddu'r driniaeth i gleifion sy'n ymddangos yn dirywio, ac mae ffigyrau diweddar yn awgrymu gostyngiad yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â sepsis.
"Does dim digon o gleifion yng Nghymru ar hyn o bryd sydd angen ECMO mewn blwyddyn i wneud canolfan yng Nghymru yn ymarferol. Yn hytrach mae cleifion o Gymru'n cael triniaeth ECMO yn un o ganolfannau hynod arbenigol y DU sy'n darparu ECMO i oedolion."
Ddydd Sadwrn mae tad Tom yn cerdded 171 o filltiroedd yn y gobaith o godi £10,000 i uned gofal dwys Ysbyty St Thomas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd14 Medi 2016