Oedi i dîm Cymru cyn eu gêm yn Denmarc
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Oedi i dîm pêl-droed Cymru cyn eu gêm yn Denmarc

8 Medi 2018 Diweddarwyd 18:29 BST

Mae tîm pêl-droed Cymru yn wynebu oedi am fod nam ar yr awyren oedd yn fod i fynd a nhw i Ddenmarc ar gyfer eu gêm yng Nghwpan y Cenhedloedd ar ddydd Sul.

Cafwyd cadarnhad yn gynharach prynhawn Sadwrn na fyddai'r tîm yn teithio cyn 17.30 am fod nam technegol ar yr awyren.

Roedd disgwyl i Ryan Giggs a'r chwaraewyr gyrraedd Stadiwm Parc Ceres yn Aarhus ar gyfer cynhadledd i'r wasg am 18.30 (Amser Safonol Prydain), ar ôl ymarfer yng Nghymru brynhawn Sadwrn.

Roedd gohebydd chwaraeon Newyddion 9, Lowri Roberts, yn aros am y gynhadledd i'r wasg yn Aarhus.