Y Gynghrair Genedlaethol: Braintree 0-1 Wrecsam

Shaun Pearson Image copyright Rex Features
Image caption Fe ymunodd Shaun Pearson Wrecsam o Grimsby ym mis Mai 2017

Roedd gôl Shaun Pearson yn ail hanner eu gêm yn erbyn Braintree, sydd ar waelod y Gynghrair Genedlaethol yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam.

Daeth capten y Dreigiau o hyd i gefn y rhwyd gyda pheniad nerthol ar gyfer ei gôl gyntaf o'r tymor, a'r cyfan yn deillio o gic cornel gan Luke Sommerfield.

Er i Braintree geisio unioni'r sgôr, diolch i ymgais Justin Amaluzor, fe gafodd ei ymdrech ei rwystro gan gôl geidwad Wrecsam, Rob Lainton.

Mae Wrecsam yn symud i'r ail safle yn y gynghrair, bwynt yn unig tu ôl i Harrogate sydd ar y brig.