Pro 14: Scarlets 23-21 Leinster

Rob Evans Image copyright Inpho
Image caption Roedd y prop, Rob Evans, yn un o bedwar o'r Scarlets a gafodd eu hanafu

Fe barhaodd record y Scarlets o ennill gartref gyda buddugoliaeth o 23 - 21 yn erbyn pencampwyr y Pro 14, Leinster, nos Sadwrn.

Cafodd y captain Ken Owens gais yn gynnar yn y gêm, ond yna fe darodd yr ymwelwyr yn ôl, diolch i geisiau gan yr asgellwyr Fergus McFadden a James Lowe.

Fe ychwanegodd Leigh Halfpenny chwe phwynt i gyfanswm y Scarlets, diolch i ddwy gic gosb llwyddianus, cyn i Gareth Davies hefyd ychwanegu at y pwyntiau gyda chais.

Cafodd Leinster hwb i'w hymdrechion i gau'r bwlch diolch i gais hys Ruddock, ond fe fethodd Ross Byrne dwy gic gosb iddyn nhw gan adael yr ymwelwyr yn brin o'r nôd.

Er y fuddugoliaeth fe gafodd tîm rheoli'r Scarlets sawl her ar ôl i'r asgellwr Johnny McNichol, yr wythwr Josh Macleod, y prop Rob Evans a'r clo Jake Ball orfod gadael y cau oherwydd anafiadau.

Mae record ddi-guro'r Sgarlets ym Mharc y Sgarlets yn ymestyn i ddwy flynedd erbyn hyn.

Pynciau Cysylltiedig