Dyn wedi ei anafu mewn damwain ffordd

Bwlch y Cibau Image copyright Google

Mae gyrrwr wedi cael ei anafu'n ddifrifol mewn damwain car ger y Trallwng.

Yn ôl heddlu Dyfed Powys roedd y car Vauxhall Corsa lliw gwyn yn teithio ar hyd ffordd yr A490 ger troad Bwlch y Cibau am 02.00 fore Sul.

Cafodd tair dynes a oedd hefyd yn y car fân anafiadau, ac fe gawson nhw hefyd eu cymryd i'r ysbyty.

Dywedodd yr heddlu fod y ffordd wedi cael ei chau am gyfnod ond ei bod bellach ar agor.

Maen nhw'n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.