Pro 14: Gweilch 46-14 Cheetahs

George North Image copyright Lluniau Huw Evans
Image caption Yr asgellwr George North yn croesi am gais ychydig cyn hanner amser

Roedd yna ddau gais yr un i Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones wrth i'r Gwelch chwalu'r Cheetahs, a sicrhau pwynt bonws yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd ceisiau hefyd gan Scott Otten, George North ac Alex Jeffries yn ddigon i'r tîm ennill eu hail gêm o'r bron yn y Pro 14 .

Dyma ydy'r tro cyntaf i'r Gweilch ennill eu dwy gêm gyntaf yn y bencampwriaeth.

Ond mae canolwr Cymru a'r Llewod, Scott Williams, yn wynebu cyfnod hir posib o adfer ar ôl anafu llinnyn y gar wedi 49 munud ary cloc.

Dywedodd y Prif Hyfforddwr, Allen Clarke, ei fod yn "teimlo'n swp sâl" wrth feddwl am golli Williams am gyfnod.

"Bydd rhaid i ni aros am ganlyniadau scans," meddai, "ond dyw e ddim yn rhywbeth sy'n mynd i wella dros yr wythnosau nesaf

"Dyw e ddim yn edrych yn grêt ar hyn o bryd, sy'n esbonio falle pam nad ydw i yn gallu dathlu'r sgôr cymaint ac y dylsen i."

Roedd yna anafiadau hefyd i brop Cymru Nicky Smith a'r cefnwr Dan Evans.

Pynciau Cysylltiedig