Teuluoedd sy'n mabwysiadu yn glaw am fwy o gefnogaeth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mabwysiadu: 'O'n i ddim yn gallu ymdopi'

11 Medi 2018 Diweddarwyd 06:44 BST

Mae angen mwy o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar deuluoedd sy'n mabwysiadu, yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Mae'r cyfarwyddwr, Suzanne Griffiths, yn dweud ei fod yn hanfodol bod mwy o welliannau yn cael eu cyflwyno a bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy.

Dywedodd un fam, sydd wedi bod drwy'r broses, ei bod yn teimlo bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi cefnu arni ar ôl iddi fabwysiadu brawd a chwaer ddeng mlynedd yn ôl.