'Mae potensial am sgandal fwy na sgandal taliadau PPI'

Stad dai yn Sir Abertawe

Gallai miloedd o bobl sydd wedi prynu eiddo ar brydles yn y chwe blynedd diwethaf dderbyn iawndal am esgeulustod proffesiynol.

Mae nifer o gwmnïau cyfreithiol yn edrych ar achosion yng Nghymru a Lloegr lle y gallai cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo heb fod wedi egluro termau'r brydles i'w cleientiaid.

Yn ôl ffigyrau'r Cofrestrfa Tir, cafodd 6,685 o dai eu gwerthu ar brydles yng Nghymru rhwng 2012 a 2017.

Yn ôl rhai arbenigwyr cyfreithiol, mae yna botensial am sgandal "anferthol" ar raddfa fwy na'r sgandal taliadau PPI.

Dywed Martyn Anderson o gwmni FS Legal eu bod yn edrych i tua 100,000 o gytundebau prydles, a bod llawer o'r achosion yng Nghymru, Lerpwl a Manceinion.

Image caption Mae potensial, medd Martyn Anderson o gwmni FS Legal, am sgandal fwy na'r un am daliadau PPI

Mae'r achosion, meddai, wedi codi yn y "mathau o ardaloedd lle mae pobol ddosbarth gweithiol go iawn yn gweithio'n galed i brynu eu cartref cyntaf ac fe allen nhw, yn y bôn, ei chael yn anodd i werthu'r eiddo ymlaen".

Ychwanegodd: "Rydym yn hyderus y gallen ni fynd ar ôl yr ymgynghorwyr proffesiynol y mae'r bobl hyn yn dibynnu arnyn nhw ac sydd, yn y bôn, wedi rhoi cyngor gwael. Ac os maen nhw wedi rhoi cyngor gwael, mae yna ddyletswydd i wneud yn iawn am yr esgeulustod hwnnw."

Beth yw prydles?

  • Mae landlord yn berchen ar eiddo a'r tir oddi tano, ac mae tenant yn prynu les sy'n rhoi'r hawl i ddefnyddio'r eiddo
  • Rhaid talu rhent i'r landlord a ffïoedd eraill i gynnal a chadw'r eiddo
  • Mae angen caniatâd y landlord i wneud unrhyw waith neu newidiadau i'r eiddo
  • Gall landlord ddod â'r cytundeb i ben ar unrhyw adeg pe na bai'r ffïoedd yn cael eu talu
  • Pan ddaw cyfnod y brydles i ben, mae'r eiddo'n dychwelyd i'r landlord, onibai bod y tenant yn estyn y cytundeb
  • Gall y brydles fod yn rhan o gytundeb rhanberchnogaeth sy'n helpu tenant i brynu eiddo yn gyfangwbwl fesul cam.

Profiad dau deulu

Fe brynodd Tony Morris a'i wraig dŷ ar stad yng Ngorseinon, yn Abertawe yn Hydref 2016 oedd yn rhan o ddatblygiad gan gwmni Persimmon. Maen nhw'n berchen ar y tŷ ei hun ond yn talu £150 i'r datblygwr mewn rhent bob blwyddyn mewn cysylltiad â'r tir oddi tano.

Dywedodd Tony na chafodd esboniad clir am oblygiadau cytundeb o'r fath, na chyngor "y byddai'r les yn codi bob 10 mlynedd, bydden ni'n gallu [prynu'r rhyddfraint] mewn dwy flynedd ac y byddai'n costio 25 gwaith y rhent.

"Cwbwl ges i wybod oedd ei bod yn brydles arferol, dim byd i boeni amdano, prydles hir - 999 o flynyddoedd, £150 y flwyddyn."

Ychwanegodd fod cyfreithiwr wedi awgrymu y byddai prynu'r rhyddfraint ond yn costio "ychydig o gannoedd o bunnoedd".

Image caption Dywed Jody Murphy nad oedd wedi llwyr ddeall maint y goblygiadau i denantiaid sy'n prynu eiddo ar brydles

Fe brynodd Jody Murphy a'i theulu dŷ fel rhan o ddatblygiad newydd Persimmon yng Nglannau Dyfrdwy ddwy flynedd yn ôl. Mae'n bosib, meddai, na fyddai wedi prynu'r brydles petae wedi cael mwy o wybodaeth.

"Pan rydych yn sylweddoli pa mor fawr ydi'r goblygiadau, nid dim ond yn ariannol ond o ran iechyd pobol, mae'n bryder mawr, mae'n gwneud i chi ofyn ydy o werth o."

Mae Persimmon wedi gwrthod cyfle i ymateb.

Cod ymddygiad

Dywed yr Ombwdsmon Cyfreithiol nad oes ystadegau penodol am gwynion cytundebau prydles, ond mae yna gwynion cyffredinol ynghylch diffyg gwybodaeth am gymalau sy'n berthnasol neu'n anarferol.

Yn ôl y Gymdeithas Trosglwyddo Eiddo, mae disgwyl i gyfreithwyr eiddo weithredu er budd cleientiaid dan eu cod ymddygiad, ac egluro'n glir beth sydd yn y brydles ac ystyr termau'r cytundeb.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y gymdeithas, Beth Rudolf bod prynwyr yn derbyn y wybodaeth, ond bod gymaint o ddogfennau nes bod hi'n anodd iddyn nhw wybod pa fanylion sy'n hanfodol.

"Y broblem fwyaf yw bod disgwyl [i'r prynwyr] ddeall pentwr o wybodaeth mewn cyfnod byr iawn, dan bwysau i gyfnewid cytundebau o fewn amserlen y datblygwyr," meddai. "Does dim digon o amser i wneud penderfyniad cytbwys a ydy termai'r cytundeb yn ôl y disgwyl ac yn addas i'r amgylchiadau unigol."

Dywedodd Awdurdod Rheolau Cyfreithwyr eu bod ond wedi derbyn "llond llaw o gwynion" ers i bryderon gael eu mynegi i Lywodraeth y DU tua 14 mis yn ôl ynghylch cytundebau prydles. Mae'r pwyllgor dethol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yng nghanol ymchwiliad i raglen ddiwygio prydlesau Llywodraeth y DU.

Yn gynharach eleni, fe sefydlodd Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans weithgor i ymgynghori ar faterion gwerthu eiddo ar brydles.

Pynciau Cysylltiedig