Taclo tân mewn adeilad diwydiannol yn Llansawel

tan llansawel Image copyright Giant Wasp Media
Image caption Mae modd gweld y mwg o filltiroedd i ffwrdd

Mae criwiau oddiffoddwyr yn ymateb i ddigwyddiad mewn adeilad diwydiannol yn Llansawel.

Cafodd Gwasanaeth Tân Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu galw i'r tân ger safle'r hen Wern Works am 10:54 ddydd Mercher.

Y gred yw bod teiars yn llosgi y tu mewn i'r adeilad.

Mae tri chriw - o Abertawe, Treforus a Phort Talbot wedi eu galw i'r safle.

Mae mwg i'w weld o filltiroedd i ffwrdd ac mae trigolion lleol wedi cael eu cynghori i gadw drysau a ffenestri ar gau.