Uwch Gynghrair Lloegr: Chelsea 4-1 Caerdydd

Eden Hazard Image copyright Getty Images

Gêm Eden Hazard oedd hon wrth iddo sgorio hatric i'r tîm cartref ar ôl i Gaerdydd fynd ar blaen yn gynnar yn y gêm.

Golygai'r canlyniad fod Caerdydd yn dal heb fuddugoliaeth, tra bod Chelsea ar frig yr uwch gynghrair gyda record 100%.

Caerdydd aeth ar y blaen ar ôl 16 munud yn dilyn cic rydd Joe Ralls. Llwyddodd Sean Morrison i benio'r bêl i lwybr Sol Bamba wnaeth ergydio i gefn y rhwyd.

Ond tarodd Hazard dwywaith o fewn saith munud cyn yr egwyl i roi Chelsea ar y blaen.

Daeth ei drydedd ar ôl cic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm ar ôl i Bamba lorio Willian.

Willian ei hun sgoriodd yr ola, gydag ergyd o bell.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu'r pencampwyr Manchester City ddydd Sadwrn nesaf.

Pynciau Cysylltiedig