Gwrthdrawiad angheuol yn y canolbarth

Heddlu

Mae dynes 79 mlwydd oed wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan fan Ford Transit ym Mhowys.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A489 ym mhentref yr Ystog, ger Trefaldwyn am 11.30 dydd Sadwrn, a bu farw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Maen nhw'n apelio am unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.