Annog dysgu Basgeg: Gwersi i Gymru?

Mae iaith a diwylliant Gwlad y Basg ymysg yr hynaf yn Ewrop, ac er gwaethaf dylanwad gref Sbaen a Ffrainc bob ochr iddi, mae'n dal ei thir yn llwyddiannus.

Mae cynnydd wedi bod yn y niferoedd sy'n siarad yr iaith dros y blynyddoedd diweddar, ac wythnos yma fe aeth cynrhychiolaeth o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i Euskadi (Gwlad y Basg) i arsylwi ar yr hyn sy'n digwydd yno.

Felly beth sy'n mynd mlaen yng Ngwlad y Basg? Roedd adroddiad ar y sefyllfa i'w chylwed ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ar 12 Hydref.

Bu Cymru Fyw yn holi Paul Bilbao Sarria, Ysgrifennydd Cyffredinol mudiad Kontseilua yng Ngwlad y Basg.

Mae'r mudiad yn cynrychioli 40 o fudiadau iaith o wahanol feysydd, a'u nod yw cyflymu'r broses o normaleiddio defnydd y Fasgeg.


Beth yw statws cyfreithiol yr iaith Fasgeg?

Mae tiriogaeth Gwlad y Basg yn un gymhleth, gan ei bod hi'n gorwedd dros ffiniau dwy wlad, Sbaen a Ffrainc.

Dyw cyfansoddiad Ffrainc ddim yn cydnabod unrhyw iaith leiafrifol, felly fedrwch chi ddim ei defnyddio'n swyddogol. Ffrangeg yw iaith y république.

Y sefyllfa yn Sbaen yw fod Sbaeneg yn iaith orfodol yn ôl y cyfansoddiad, ond fod ieithoedd eraill yn medru cael statws cyfreithiol hefyd.

Image caption Paul Bilbao Sarria o fudiad Kontseilua

I wneud pethau'n fwy cymhleth, yn Sbaen mae'r gymuned Fasgaidd wedi ei rhannu'n ddwy ran arall, sef talaith Navarre, a Chymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, sydd yn cynrychioli tair talaith, Bizkaia, Araba, a Gipuzkoa.

Yn Navarre, 'dyw hawliau ieithyddol siaradwyr Basgeg ond yn cael eu cydnabod mewn un ardal, ond yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, mae Basgeg yn iaith swyddogol ac yn gyfartal â Sbaeneg.

Pam bod yna gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n siarad y Fasgeg?

Mae'n bwysig dweud fod y cynnydd yn wahanol iawn ym mhob ardal neu dalaith, ac mae hyn yn adlewyrchu'n glir y gwahaniaeth mae cefnogaeth a chynllunio yn ei gael ar yr iaith.

Yn ôl yr Arolwg Ieithyddol-Cymdeithasol yn 2011, mae 27% o boblogaeth Gwlad y Basg yn hollol ddwyieithog. Mae hyn i'w gymharu â 22.3% nôl yn 1991.

Image caption Gwahanol daleithiau Gwlad y Basg

Ond yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, lle mae'r gefnogaeth i'r iaith wedi ei threfnu a'i chefnogi orau, cododd y ffigwr i 31% yn 2011, i'w chymharu â 24.1% yn 1991.

Yn y Gymuned Foral yn Navarre (ble mae'r iaith yn cael ei chydnabod yn swyddogol) mi gododd y ganran o 9.5% yn 1991 i 11.7% yn 2011, ond yn y diriogaeth Ffrengig, syrthiodd y ganran o 26.4% yn 1991 i 21.4% yn 2011.

Beth oedd i'w gyfrif am y llwyddiant yn ardal Navarre?

Os ydych chi eisiau normaleiddio defnydd iaith leiafrifol mae 'na bedwar ffactor pwysig i'w hystyried: deddfwriaeth effeithiol, cynllunio ieithyddol, adnoddau economaidd digonol, a chefnogaeth ac annogaeth y boblogaeth.

Mae'r ffigyrau uchod a'r ffordd mae'r iaith wedi datblygu mewn gwahanol ardaloedd yn dangos yn glir y gwahaniaeth mae'r pedwar ffactor yma yn eu cael ar dwf yr iaith o ardal i ardal.

Image caption Paul Bilbao Sarria yn annerch rali yn Pamplona-Iruñea, yn 2014, cyn etholiadau talaith Navarre

Fedri di awgrymu pam bod y Gymraeg yn colli tir yn araf tra bod y Fasgeg i'w gweld yn ffynnu?

Mae tair ffordd allweddol i gynyddu nifer y bobl sy'n siarad unrhyw iaith.

Yn gyntaf, trosglwyddo iaith o rieni i blant. Yn ffodus mae bron pawb sydd yn siarad Basgeg yn trosglwyddo'r iaith i'w plant.

Yr ail ffordd yw trwy oedolion yn penderfynu dysgu iaith. Mae polisïau iaith cadarn yn medru bod yn effeithiol iawn. Er enghraifft, petai siarad iaith benodol yn orfodol er mwyn gweithio yn y sector cyhoeddus, yna byddai miloedd o oedolion yn dysgu'r iaith honno.

A'r trydydd ffordd yw dysgu'r iaith i genedlaethau newydd drwy'r system addysg, sydd yn bwysig iawn wrth gwrs. Yng Ngwlad y Basg, mae'r system addysg wedi ei chynllunio fel bod plant yn cael eu trochi yn yr iaith Fasgeg, ond yn dysgu ieithoedd eraill hefyd. O ganlyniad mae'n creu poblogaeth sydd yn wir amlieithog.

O'r hyn rwy'n ei ddeall mae Cymru wedi mabwysiadu pob un o'r polisïau uchod, ond rhaid i chi ddarganfod pam nad ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus ym mhob ardal.

Ydy hi'n broblem annog pobl ifanc yn eu harddegau i siarad y Fasgeg gyda'i gilydd fel ag y mae hi yng Nghymru?

Ydy, a'r broblem yw dwysedd siaradwyr Basgeg, pa mor hyderus ydyn nhw'n siarad Basgeg o'i gymharu â Sbaeneg (neu Ffrangeg), ac agwedd y bobl ifanc tuag at yr iaith Fasgeg a'u hunaniaeth.

Ar ben hyn, mae'r cyfleoedd i siarad Basgeg tu allan i'r ysgol yn brin iawn. Fedrwch chi ddim defnyddio iaith os nad oes gennych chi'r cyfle i fyw drwy'r iaith honno.

Mae Kontseilua o hyd yn cyfeiro at ddwy flaenoriaeth pan yn annog polisïau iaith; pobl a llefydd.

Rhaid creu polisïau sydd yn annog mabwysiadu iaith ac wedyn creu'r llefydd lle gall yr iaith gael ei defnyddio'n naturiol.

'Does dim pwynt arllwys yr holl adnoddau i annog dysgu iaith, os nad oes cyfleoedd i bobl ddefnyddio a byw drwy'r iaith wedyn.

Petai yna fudiad fel Kontseilua yng Nghymru, beth fyddai dy gyngor di i wella sefyllfa'r Gymraeg?

Yr unig ffordd i normaleiddio iaith leiafrifol yw trwy gymdeithas gref a chadarn sydd wirioneddol eisiau i hynny ddigwydd.

Felly'r cam cyntaf fyddai annog y gymdeithas i newid ei hagwedd tuag at yr iaith, a'i pherswadio fod byw trwy gyfrwng yr iaith yn bwysig, yn hawl, ac yn rhan annatod o'i hunaniaeth.

Image caption Murlun yn nhref Zarautz yng Ngwlad y Basg. Ystyr 'Zarautzen ere harrotasunez Euskaraz bizi' yw 'Mae trigolion Zarautz yn falch o fyw drwy'r Fasgeg'

Dim ond pan fydd y boblogaeth yn mynnu hyn, y bydd gwleidyddion yn cael eu gorfodi i lunio polisïau fydd yn hwyluso'r broses, gan sicrhau bod cymdeithas amlieithog yn cael ei chreu.

Mae'n rhaid i hyn ddigwydd ar raddfa fwy eang yng Nghymru na'r hyn sydd i'w weld yn digwydd ar hyn o bryd.