Gwion Edwards a Kieron Freeman wedi eu galw i'r garfan

Connor Roberts a Gwion Edwards Image copyright Getty Images
Image caption Gwion Edwards (dde) yn herio Connor Roberts (chwith) yn ystod buddugoliaeth ddiweddar Ipswich yn erbyn yr Elyrch

Mae'r chwaraewr canol cae Gwion Edwards wedi ei alw i garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae Edwards, 25 oed, yn chwarae i Ipswich Town yn y Bencampwriaeth ac wedi sgorio tair gôl mewn 12 gem eleni.

Mae amddiffynnwr Sheffield United, Kieron Freeman, hefyd wedi cael ei alw i'r garfan.

Fe gollodd Cymru i Sbaen o 4-1 mewn gem gyfeillgar yn y Stadiwm Genedlaethol nos Iau, ac mae pryder nawr am ffitrwydd sawl aelod o'r garfan cyn herio'r Weriniaeth nos Fawrth.

Dywedodd rheolwr Cymru, Ryan Giggs, ei bod hi'n annhebygol y bydd Gareth Bale ar gael ar gyfer y gêm ac mae ansicrwydd bellach os fydd Ethan Ampadu a Chris Mepham yn holliach.

Bydd Cymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Aviva am 19:45 ar 16 Hydref.

Straeon perthnasol