50 mlynedd ers arbrawf i beidio troi'r clociau'n ôl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

O'r archif: Clociau Aberdâr yn mynd nôl neu 'mlaen?

Bydd posib i chi gael awr yn hirach yn eich gwely fore Sul wrth i ni droi'r clociau am yn ôl.

Ond nid felly oedd hi yn 1968, pan gafodd arbrawf ei gynnal ledled Prydain i beidio'u troi nhw 'nôl awr fel bod mwy o olau gyda'r nos.

Aeth y cynllun ymlaen am dair blynedd cyn i Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid dychwelyd i'r hen drefn o'u troi nhw'n ôl ddiwedd Hydref.

Ar hyn o bryd, mae'r Undeb Ewropeaidd yn ystyried dod â'r arferiad o droi'r clociau i ben am fod arolwg yn dangos bod y mwyafrif o bobl yn ei erbyn.

'Pawb yn licio gola' dydd'

Roedd Gwyn Jones o Drawsfynydd ac Eleri Jones o Gapel Garmon yn ddisgyblion ysgol gynradd yn ystod cyfnod yr arbrawf.

Mae'r ddau o'r farn y dylai'r arbrawf gael ei wneud eto.

"Yn y bora, ma' rywun yn gw'bod ei bod hi'n mynd i fod yn ola' dydd ond pen arall, i bobl efo problema' iechyd meddwl, mae'n ddiwrnod hir ofnadwy," meddai Mr Jones.

"Ac i bobl sydd efo diwrnod hir o'u blaena', ma' nhw'n cychwyn i'w gwaith pan mae'n dywyll, ac wedyn yn dod adra' o'u gwaith ac mae'n dywyll."

Dywedodd Ms Jones: "Dwi'n licio gola' dydd, a ma' pawb ohona ni dwi'n meddwl. A'r hyna'n byd ma' rywun yn mynd, 'da chi'n ei werthfawrogi o fwyfwy fyth."