Y Gynghrair Genedlaethol: Chesterfield 1-1 Wrecsam
- Published
image copyrightGetty Images
Methodd Wrecsam y cyfle i godi i frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl ildio gôl yn y munud olaf i Chesterfield.
Fe aeth y Dreigiau ar y blaen ar ôl 20 munud wedi i Brad Walker sgorio cic o'r smotyn yn dilyn llawio yn y cwrt cosbi.
Gallen nhw fod wedi ymestyn eu mantais, gydag Akil Wright ymhlith y chwaraewyr a fethodd gyfleoedd i wneud hynny.
Ac fe gawson nhw eu cosbi wrth i gôl hwyr Jonathan Smith sicrhau gêm gyfartal.