'Traws wedi elwa o gael gorsaf niwclear'

Image copyright Christopher Furlong

Mae hi'n 50 mlynedd mis yma ers i Atomfa Niwclear Trawsfynydd agor yn swyddogol, er i'r gwaith ddechrau ar y safle bron i ddegawd ynghynt.

Mae'r atomfa wedi stopio cynhyrchu trydan ers 1991 ond mae'r safle yn cael ei dadgomisiynu ar hyn o bryd.

Un oedd yn gweithio yn yr orsaf am flynyddoedd ac sydd yn dod o bentref Trawsfynydd yw Beryl Williams.

Siaradodd Cymru Fyw gyda Beryl i drafod yr effaith a gafodd yr orsaf ar yr ardal a'i hatgofion o weithio yno.


Rhyw bedair neu bump oed o'n i pan ddechreuodd y sôn bod yna atomfa ar y ffordd.

Mi roedd yna brotest gan rhai pobl ond dwi'n meddwl ar y cyfan oedd pawb fel bod nhw'n derbyn 'wel mae'n dod a gallwn ni ddim gwneud llawer ynglŷn â'r peth'.

Es i i'r ysbyty am chwe mis pan o'n i'n chwech oed, a pan ddos i nôl i Traws y peth cyntaf nes i sylwi arno oedd y Craen Goliath 'ma oedd yno'n adeiladu.

Cymuned Wyddelig

Yn hwyrach 'mlaen daeth 'na lot o bobl i'r ardal i weithio, gan gynnwys Gwyddelod oedd yn labro yn gweithio ar y llyn, ond cafodd y llyn ei hun ei adeiladu yn 1929 ar gyfer gorsaf Maentwrog.

Drwy adeiladu'r atomfa niwclear wrth gwrs roedd rhaid gwneud y llyn y fwy ac adeiladu argae.

Dwi'n cofio fe dyfodd yr ysgol o tua 60 o blant i thua 150 dros gyfnod o flwyddyn, gyda lot o'r plant yn byw mewn carafanau.

Dwi'n cofio bod lot o Gatholigion 'di dod i'r ardal a chafodd yr Eglwys Gatholig ei hadeiladu yng Ngellilydan lawr y ffordd.

Image caption Dechreuodd Beryl Williams weithio yn Atomfa Niwclear Trawsfynydd yn 1974

Roedd y tadau Pabyddol yn helpu'r plant a dwi'n cofio roedd 'na wersi dawnsio Gwyddelig.

Roedd 'na gymuned dda yno, a dwi'n cofio cael ein gwadd i ymuno efo nhw adeg y Nadolig.

Mi wnaethon nhw adeiladu dipyn o dai cyngor yn Traws, Gellilydan a Phenrhyn.

Swyddi i gyn-chwarelwyr

Roeddech chi'n ymwybodol yn sydyn iawn bod pawb yn mynd i weithio yna, fel labrwrs neu rwbath. Dwi'n meddwl mai dyna oedd y peth gorau yn yr ystyr bod 'na waith ar gael i bobl o wahanol sgiliau, o lanhau'r llawr i gwcio.

Pan o'n i'n gweithio yn yr orsaf, Cymraeg oedd y brif iaith, er mai Saesneg oedd yn cael ei defnyddio yn yr adran fach o'n i ynddi.

Roedd yna hefyd dipyn o chwarelwyr oedd wedi colli eu swyddi yn y chwarel yn Blaenau ac oedd wedi arfer a pheiriannau.

Maen nhw'n dweud hyd heddiw fod y gymdeithas o fewn yr atomfa ei hun lot gwell na unrhyw orsaf arall, ac maen nhw'n credu mai'r chwarelwyr a ddaeth i Traws ac oedd yn gweithio ar y trenau ddaeth ag awyrgylch 'y caban' efo nhw - roedd pawb yn ffrindiau ac mor agos a chyfeillgar.

Es i weithio yn Wylfa am dair blynedd hefyd ac roedd y gwahaniaeth i'w weld. Oeddech chi'n gweld bod 'na gymdeithas mor glos yn Traws - un o'r llefydd gorau i weithio yno.

'Dechrau fel clerc'

Ffisegydd niwclear o'n i ar ôl cychwyn fel clerc a gwneud gradd yn Abertawe mewn Maths ac Economeg.

O'n i byth yn meddwl 'swn i'n gweithio yn yr atomfa, ond ddos i nôl i Traws a meddwl: "Be' dwi am wneud nesa'?". Nes i drio am job yno a'i chael hi ac wedyn gweithio'n ffordd i fyny.

Rhoddodd yr atomfa lot o gyfleoedd i rai eraill fel fi oedd wedi bod i ffwrdd i astudio yn y coleg a ddim yn hollol siŵr be' i wneud wedyn.

Image copyright Christopher Furlong
Image caption Llyn Trawsfynydd, a greuwyd yn wreiddiol ar gyfer gorsaf bŵer Maentwrog

Roedd y lle yn gwneud ufflwn o lot o wahaniaeth i gyflogaeth yr ardal.

Mae 'na wahaniaeth i'w weld rŵan, ac mae 'na lot llai o bres yn yr ardal gyda siopau yn cau ac ati.

Ond un peth da oedd bod yna gynllun pensiwn eitha' da i gyn-weithwyr - heb hynny fysa fo 'di bod yn waeth ar yr ardal.

Tirwedd

Cafodd yr atomfa ei gynllunio gan Basil Spence, a oedd yn ddyn eitha' enwog.

Dwi'n meddwl bod o 'di cynllunio fo'n dda i ddweud y gwir a bod o'n edrych yn dda yn erbyn y mynyddoedd.

Bysa rhai yn cytuno efo fi ac eraill ddim - dwi 'di arfer efo fo drwy fy mywyd.

Dydi'r tir o gwmpas Traws ddim yn dir ffermio da iawn achos mae'n fawnog iawn.

Niwclear yn ddiogel?

Mae'r byd niwclear o hyd wedi codi rhyw ofnau emosiynol.

Pan 'da chi'n meddwl am dôs o radiation, 'da chi ddim yn poeni ddwywaith am fynd am X-Ray i'r ysbyty.

Dwi ddim yn d'eud, wrth gwrs fe allwch chi gael damweiniau fel y digwyddodd yn Chernobyl.

Ond yn y wlad yma mae'r NII (Nuclear Installations Inspectorate) sy'n goruchwylio popeth lot cryfach nac ydyn nhw yn unlle arall.

traws Image copyright Matthew Horwood
Image caption Cafodd yr Atomfa ei ddylunio gan y pensaer o'r Alban, Syr Basil Spence

Dyna pam mae gen i dipyn bach o ofn os 'da ni'n mynd mwy'r ffordd Americanaidd, sy'n rhoi lot mwy o bwyslais ar arian.

Does gen i ddim gymaint o ffydd yn heini, ond mae gennai ffydd yn yr NII - mae gennyn nhw ddylanwad cryf yn y wlad yma, ac o'n i'n meddwl bod safonau diogelwch Traws yn aruthrol o uchel, ac Wylfa hefyd.

Be' dwi isho ydi gweld bod y gymuned leol yn elwa ohoni, achos mi 'naeth Traws elwa dipyn, does 'na'm dwywaith am hynny.

Y dyfodol yn Nhrawsfynydd

Maen nhw'n ystyried cael gorsaf newydd bychan i Traws, ac mi fysa hynny'n ideal.

Yn enwedig o ystyried y peth mwya' wnaeth o i'r ardal oedd rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fel aprentis - oedden nhw'n cymryd rhyw hanner dwsin 'mlaen bob blwyddyn, ac mae'r rheina i gyd wedi dysgu eu crefft ac oedd 'na rai oedd wedi bod yn coleg ac yn gallu mynd syth fewn fel peiriannydd.

Yn anffodus does 'na ddim byd i'r ifanc dyddiau 'ma a dwi'n meddwl bo' hynny'n golled i'r ardal, a does 'na ddim swyddi i bob math o ddoniau.

Fyswn i'n hoffi gweld Maes Awyr Llanbedr ger Harlech yn cael ei ddatblygu hefyd. Mae pobl yn anghofio, os 'da chi eisiau edrych ar ôl cefn gwlad Cymru, mae'n rhaid cael gwaith sy'n talu cyflog dechau iddyn nhw - dydi swyddi zero hours 'ma yn dda i ddim byd os 'da chi isho magu teulu.

Y peth pwysicaf oedd y gallu i gadw pobl ifanc yma a bod ganddyn nhw ddigon o gyflog i fagu teulu yma.