Cyllid i wasanaethau anableddau dysgu
- Published
Mae prosiect i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu yng ngogledd Cymru i dderbyn nawdd o gronfa Cymru Iachach Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ddydd Mawrth ei fod yn rhoi £1.69m dros gyfnod o ddwy flynedd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd.
Daw'r cyllid o gronfa sy'n cefnogi amcanion Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor y llywodraeth ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ôl Mr Gething, "dibynnu llai ar ysbytai" a "darparu gofal yn nes at gartrefi pobl" yw gobaith Cronfa Trawsnewid,
Bwriad y cyllid i Fwrdd Partneriaeth y Gogledd yw cyfrannu at integreiddio'r gwasanaethau iechyd, y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a'r trydydd sector yn fwy effeithiol a gweithio at helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw'n fwy annibynnol.
Integreiddio gwasanaethau
Dywedodd Mr Gething ei fod yn gobeithio bydd y prosiect yn arwain at "ddibynnu llai ar ysbytai, gan ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl".
Esboniodd: "Y gobaith wedyn fydd cyflwyno'r syniadau newydd hyn ym mhob rhan o Gymru er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion a lleihau'r pwysau ar rannau o'r GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol."
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Roberts, sy'n gadeirydd ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd, mae'r cyllid yn golygu gallu gwireddu'r angen i "drawsnewid gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu".
"Mae'n uchelgais mawr yma yn y Gogledd ein bod ni'n gwella'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a hynny drwy ganolbwyntio ar roi pobl yn gyntaf a threfnu ein gwasanaethau'n seiliedig ar anghenion y bobl sy'n byw yma," meddai.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Mehefin 2018
- Published
- 16 Mehefin 2017