Achos Pentywyn: Cyhuddo dyn fu ar ffo o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Steve BaxterFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,
Mae Wayne David Baxter Tidy, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Steve Baxter, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo Wayne David Baxter Tidy, sy'n cael ei adnabod fel Steve Baxter, o lofruddio Simon Clark.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen ynadon yn Llanelli fore Mercher.

Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 28 Medi.

Roedd yr heddlu yn chwilio am Mr Baxter am wythnosau cyn iddo gael ei ddal a'i arestio ar 27 Hydref yn ardal Pentywyn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin ar 28 Medi

Mae pedwar person arall hefyd wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â'r llofruddiaeth.

Mae Jeffrey Stephen Ward, 40 oed o Bentywyn, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae tri arall wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr - Linda Mary Rowley, 52 o Bentywyn, Kirston Macklin, 52 o Gasnewydd, a Julie Louise Harris, 46 o Donypandy.