Cyhuddo dyn 20 oed o Gaerdydd o droseddau terfysgaeth

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon

Mae dyn 20 oed o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o droseddau terfysgaeth.

Mae Zakaria Afey o ardal Llaneirwg wedi ei gyhuddo o fod â deunydd yn ei feddiant fyddai o ddefnydd i berson oedd yn cyflawni neu yn paratoi at weithred derfysgol.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ddosbarthu gwybodaeth yn ymwneud â therfysgaeth.

Cafodd ei gyhuddo yn dilyn cyrch gan uned gwrth-derfysgaeth de Cymru, Wectu.

Cafodd Mr Afey ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster, Llundain yn ddiweddarach.