Caerlŷr i wynebu Caerdydd wedi marwolaeth perchennog

Published
image copyrightGoogle

Bydd gêm Caerlŷr yn erbyn Caerdydd yn Uwch Gynghrair Lloegr yn mynd yn ei blaen ddydd Sadwrn, yn dilyn marwolaeth perchennog Caerlŷr dros y penwythnos.

Bu farw Vichai Srivaddhanaprabha a phedwar arall pan ddisgynnodd ei hofrennydd i'r ddaear yn dilyn gêm Caerlŷr yn erbyn West Ham.

Cafodd eu gêm yn erbyn Southampton nos Fawrth ei gohirio yn dilyn y digwyddiad.

Ond mae'r gynghrair wedi cadarnhau y bydd y Foxes yn chwarae Caerdydd am 15:00 ddydd Sadwrn.