Cyn-chwaraewr Cymru, Gethin Jenkins, i ymddeol o rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-brop Cymru, Gethin Jenkins, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol yn dilyn gêm y Gleision yn erbyn Zebre ddydd Sul.
Ar ôl ennill 129 cap dros ei wlad - y mwyaf i unrhyw chwaraewr ei ennill - a phump i'r Llewod mae Jenkins, 37 oed, wedi penderfynu nad yw ei ben-glin yn ddigon iach i allu chwarae yn gyson.
Mae'r anaf, sydd wedi ei ddisgrifio fel un "cronig", wedi golygu mai dim ond dwy gêm mae Jenkins wedi gallu chwarae y tymor hwn, a hynny i ail dîm y Gleision yn y Gwpan Geltaidd.
Dywedodd Jenkins: "Mae'n amlwg yn benderfyniad mawr, ond rydw i wedi cael innings da, mae hi'n bryd i mi orffen a dwi'n edrych 'mlaen i allu chwarae un waith eto ar y penwythnos."
#DiolchGethin #ThankYouGethin
— Cardiff Blues (@cardiff_blues) October 31, 2018
Bydd Gethin Jenkins yn ymddeol yn dilyn y gêm yn erbyn Zebre prynhawn Sul (CG 2.45yh)
Gyrfa bythgofiadwy! Un o'r goreuon!https://t.co/bd1iygn1gL? pic.twitter.com/oxPmS354nF
Gyda Gleision Caerdydd y mae Jenkins wedi treulio mwyafrif ei yrfa, gan gynnwys cyfnod fel capten rhwng 2014-17.
Mae'r prop pen-rhydd wedi llwyddo i ennill pedair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru, yn ogystal â churo Cwpan Heineken gyda Toulon yn ystod yr un tymor a dreuliodd i ffwrdd o'r Gleision.
Yn ôl Cadeirydd y Gleision, Peter Thomas, mae Jenkins wedi gwneud "cyfraniad enfawr" i'r gêm, gan ychwanegu ei fod o wrth ei fodd bod Jenkins yn aros gyda'r clwb fel hyfforddwr yn yr academi.