Trafodaethau 'adeiladol' rhwng Price a May
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Beth sy'n digwydd nesaf i Gymru wedi Brexit?

31 Hydref 2018 Diweddarwyd 19:41 GMT

Yn dilyn cyfarfod gyda'r Prif Weinidog Theresa May yn Downing Street, mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price yn egluro'r drafodaeth gafodd y ddau ynglŷn ag Economi Cymru wedi Brexit.

Yn ôl Adam Price fe gafodd materion trethi a phwerau benthyg i Gymru eu trafod gyda Theresa May mewn cyfarfod o tua 45 munud o hyd.

Dyma'r dro cyntaf i un o arweinwyr Plaid Cymru gynnal cyfarfod gyda phrif weinidog presennol yn Rhif 10, yn ôl y blaid.

Dywedodd Mr Price ei fod wedi "rhoi'r achos" dros Gymru.