Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ym Mhentywyn

Simon Peter Clark Image copyright Heddlu Dyfed-Powys
Image caption Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod ar 28 Medi

Mae dyn 52 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi ei gyhuddo o drywanu dyn 54 oed i farwolaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Cafwyd hyd i gorff Simon Clark ym maes carafanau Grove Park ym Mhentywyn ar 28 Medi.

Mae Stephen Baxter - sydd hefyd yn cael ei adnabod dan yr enw William Wayne David Baxter Tidy - hefyd wedi ei gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant.

Fe ymddangosodd yn y llys trwy gysylltiad fideo o garchar Caerdydd ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf ar 18 Ionawr.

Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Roedd Stephen Baxter - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel William Wayne David Baxter Tidy - ar ffo am wythnosau cyn cael ei arestio ar 27 Hydref

Bydd yr achos llawn yn dechrau yn Llys y Goron Abertawe ddiwedd Mawrth ac yn para am bedair wythnos.

Mae pedwar person arall eisoes wedi bod o flaen llys mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Clark.

Mae Jeffery Stephen Ward, 40, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth a'r diffynyddion eraill - Kirston Macklin, 52, Linda Mary Rowley, 52, a Julie Louise Harris, 46 - wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Pynciau Cysylltiedig