Ymchwilio i ymateb Heddlu De Cymru cyn llofruddiaeth

Terrie-Ann Jones Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd Terrie-Ann Jones ei llofruddio gan ei chyn-bartner John Lewis ym mis Ionawr eleni

Mae ymateb Heddlu De Cymru i achos o drais domestig cyn i ddynes gael ei llofruddio gan ei phartner dan ymchwiliad.

Cafodd Terrie-Ann Jones, 33 oed, ei llofruddio gan ei chyn-bartner yn ei chartref yng Nghimla, Castell-nedd ar 5 Ionawr eleni.

Bydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn edrych ar ddigwyddiad o fis Awst 2017 ac yn ymateb i driniaeth y llu o gwynion gan deulu Ms Jones.

Dywedodd cyfarwyddwr rhanbarthol IOPC, Catrin Evans: "Mae ein hymchwilwyr yn edrych ar ddigwyddiad o fis Awst diwethaf ac yn ymchwilio i weld os ddilynodd Heddlu De Cymru y polisïau a chyfarwyddyd lleol a chenedlaethol."

Ychwanegodd bod yr IOPC hefyd am fod mewn cysylltiad cyson gyda theulu Ms Jones.

Cafodd John Paul Lewis, 56 oed, dedfryd oes, gyda lleiafswm o 19 mlynedd, am lofruddio Ms Jones.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol