Ystyried codi treth cyngor ar ail gartrefi Ynys Môn

Tai

Mae aelod o gabinet Cyngor Môn wedi dweud y dylid ystyried codi'r dreth cyngor ar ail dai yn y sir i 50%.

Daw'r sylwadau wedi i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod 36% o'r tai gafodd eu gwerthu ar yr ynys yn 2017/18 yn ail gartrefi - o'i gymharu â 29% y flwyddyn gynt.

Yng Ngwynedd roedd y canran ar gyfer y llynedd hyd yn oed yn uwch - 39% - a hynny hefyd wedi cynyddu mewn blwyddyn.

Mae'r Swyddfa Dreth yn diffinio ail gartrefi fel unrhyw dŷ sy'n cael ei brynu gan rywun sydd eisoes wedi'u cofrestru yn rhywle arall, ac mae'n cynnwys tai haf yn ogystal â thai sy'n cael eu prynu fel buddsoddiad neu gan landlordiaid.

Gwynedd ar y brig

Yn Ynys Môn y llynedd cafodd 450 o ail gartrefi eu gwerthu am gyfanswm o £92m - cyfartaledd o dros £200,000 yr un.

Yng Ngwynedd fe werthwyd 820 o ail dai am gyfanswm o £154m, neu £188,000 yr un ar gyfartaledd.

Roedd 28% o'r tai gafodd eu gwerthu yng Nghonwy a 24% o'r rheiny yn Sir Dinbych hefyd yn ail gartrefi - gyda'r canran yn 21% yn Wrecsam a 18% yn Sir y Fflint.

Dim ond dwy ardal yn y DU cyfan oedd â chyfradd uwch o ail dai na Gwynedd, gyda'r ddwy - Kensington a Chelsea, a Westminster - yn ardaloedd cyfoethog yng nghanol Llundain.

Image copyright Google
Image caption Gwynedd sydd ag un o'r cyfraddau uchaf o ail gartrefi yn y DU

Daeth y cynnydd er gwaethaf treth stamp ychwanegol o 3% gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU yn 2016 er mwyn ceisio lleihau nifer y bobl oedd yn prynu tai er mwyn eu rhentu neu ddefnyddio fel llety gwyliau.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth mudiad Cylch yr Iaith gyhuddo Cyngor Gwynedd o "erydu'r gymuned Gymraeg" drwy flaenoriaethu twristiaeth yn yr ardal.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Gwynedd gyflwyno treth cyngor ychwanegol o 50% ar ail gartrefi, flwyddyn wedi i Gyngor Môn godi treth debyg o 25%.

Ond fe wnaeth Cyngor Conwy benderfynu peidio cyflwyno newid tebyg, gan ddweud bod modd i bobl osgoi'r dreth beth bynnag wrth gofrestru eu tai fel busnesau gwyliau.

Tynhau rheolau

Wrth ymateb i'r ystadegau diweddaraf dywedodd Alun Mummery, deilydd y portffolio tai ar Gyngor Môn: "Ni oedd un o'r cynghorau cyntaf i ddod â'r dreth ychwanegol ac fe wnaethon ni ei gapio fo ar 25%, ond ers hynny mae eraill wedi penderfynu ei godi i 50%.

"Yn bersonol dwi'n meddwl y dylen ni ailystyried hyn ac o bosib ei gynyddu yn y dyfodol.

"Mi fyddai'n gofyn am adolygiad o hyn, ond dwi'n ymwybodol o'r angen i daro'r cydbwysedd cywir."

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i dynhau'r rheolau er mwyn atal pobl rhag osgoi'r dreth ar ail dai.

Image caption Alun Wyn Mummery ydy'r aelod cabinet dros dai ar Gyngor Môn

Dywedodd aelod cabinet yr awdurdod dros dai, Craig ab Iago, fod tai haf yn cael effaith ar nifer y cartrefi fforddiadwy oedd ar gael yng Ngwynedd.

"Rydyn ni'n gobeithio taclo cymaint o'r problemau yma ac y gallwn ni gyda'r ychydig bwerau sydd gennym ni," meddai.

"Ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw tai a chynllunio ac fe fydden ni'n croesawu trafodaethau pellach gyda nhw ynghylch y sefyllfa bryderus yma."

Ychwanegodd Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith fod trafferthion pobl leol wrth ganfod tai fforddiadwy yn "tanseilio bywyd cymunedol, ein trefi a'n pentrefi, a'r diwylliant a'r iaith Gymraeg".

Dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys y DU eu bod wedi cynyddu cyfradd y dreth stamp ar gyfer ail gartrefi er mwyn "rhoi cymorth" i'r rheiny oedd yn prynu am y tro cyntaf.

Straeon perthnasol