Apêl yr heddlu am 'becyn amheus'

pecyn Image copyright Heddlu Dyfed-Powys
Image caption Cafodd pecyn ei amheus ei weld wedi ei adael ar gar yn Spencer Terrace am tua 09:00 y bore.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am gymorth y cyhoedd mewn ymchwiliad i fom ffug yng Nghwm-twrch Isaf ddydd Iau.

Cafodd pecyn ei amheus ei weld wedi ei adael ar gar yn Spencer Terrace am tua 09:00 y bore.

Roedd negeseuon allai gael eu hystyried fel rhai bygythiol ar y pecyn.

Fe gafodd y stryd, ynghyd â Heol Abraham gerllaw a nifer o gartrefi, ei gwagio gan swyddogion.

Cafodd uned difa bomiau ei galw, ac fe ddefnyddiwyd peiriant i gynnal ffrwydrad o'r pecyn dan reolaeth am tua 14:30.

Daeth yr heddlu i'r casgliad nad oedd y pecyn yn un peryglus, ac maen nhw bellach yn apelio am wybodaeth allai eu cynorthwyo i ddal pwy bynnag oedd yn gyfrifol.

Mae'r heddlu yn gofyn i bobl ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod DPP/0041/01/11/2018/01/C, neu gall pobl ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Pynciau Cysylltiedig