Pro 14: Caeredin 31-21 Scarlets

Caeredin v Scarlets Image copyright SNS

Colli oedd hanes y Scarlets o 31-21 oddi cartref yng Nghaeredin yn y Pro14 nos Wener.

Llwyddodd Bill Mata i gael un cais a Tom Brown gael dwy yn yr hanner cyntaf i'r tîm cartref.

Cyn yr hanner fe groesodd Morgan Williams a Paul Asquith i'r Scarlets i sicrhau mai dim ond tri phwynt o wahaniaeth oedd rhwng y ddau dîm ar yr egwyl.

Fe aeth y Scarlets ar y blaen am gyfnod yn yr ail hanner diolch i gais Johnny McNicholl ar ôl i Simon Hickey gael ei anfon i'r gell gosb.

Ond croesodd Pierre Schoeman am bedwaredd cais Caeredin, cyn i Mata dirio ei ail o'r noson i selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn llithro i'r trydydd safle yn Adran B y Pro14, y tu ôl i Leinster ac Ulster.

Pynciau Cysylltiedig