Pro 14: Gweilch 20-29 Glasgow

Dan Evans Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu bron i Dan James grosi i sgorio cais i'r Gweilch yn erbyn Glasgow

Llwyddodd Glasgow i ennill yn erbyn y Gweilch o 29-20 ar Stadiwm Liberty nos Wener, diolch i dri chais gan yr eilydd Niko Matawalu.

Daeth Matawalu ymlaen i'r maes wedi tri munud yn dilyn anaf i Ruaridh Jackson cyn croesi deirgwaith i sicrhau fod yr Albanwyr yn parhau ar frig y tabl.

Nick Grigg sgoriodd y cais arall i Glasgow yn dilyn perfformiad arbennig i'r tîm oddi cartref.

Llwyddodd Olly Cracknell i sgorio cais cyntaf y Gweilch cyn i Hanno Dirsken redeg yn glir ar ôl pas ddeallus gan Cory Allen, wrth i'r tîm cartref geisio sicrhau pwynt bonws.

Daeth James Hook ymlaen yn yr ail hanner, cyn gorfod gadael y maes yn fuan wedyn yn dilyn anaf i'w ben.

Fe giciodd Sam Davies yn gywir, ond er gwaethaf pwysau ymosodol hwyr gan y Gweilch, ni lwyddon nhw i sicrhau pwynt bonws am golli'r gêm.

Pynciau Cysylltiedig