Carlisle 3-2 Casnewydd

Jamie Devitt Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Jamie Devitt dwy o dair gôl Carlisle

Roedd hi'n gêm agos rhwng Carlisle a Chasnewydd wrth gystadlu yn nhabl Adran 2.

Sgoriodd Jamie Devitt dwy gôl gynta' gêm i Carlisle o fewn chwarter awr o gamu i'r cae.

Wrth ei gwt, daeth Padraig Amond ati i sgorio'r gôl gyntaf i Gasnewydd gyda'i ben cyn diwedd yr hanner cyntaf a daeth gôl arall gan Dan Butler i unioni'r sgôr.

Fodd bynnag, chwalwyd gobeithion yr ymwelwyr yn llwyr gyda gôl munud olaf gan Danny Grainger yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Carlisle.

Pynciau Cysylltiedig