Galw ar Alun Cairns i fynd yn dilyn cytundeb Brexit

Alun Cairns Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth aelodau'r cabinet, gan gynnwys Alun Cairns, roi sêl bendith i'r cytundeb drafft ddydd Mercher

Mae aelod o gabinet Llywodraeth Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns i ymddiswyddo yn dilyn cyhoeddi cytundeb drafft Llywodraeth y DU ar Brexit.

Dywedodd Vaughan Gething fod y ffaith nad oedd Cymru'n cael ei grybwyll unwaith yn y ddogfen 585 tudalen yn dangos "nad yw'r Torïaid yn malio am Gymru".

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eisoes wedi beirniadu Theresa May am beidio â rhannu manylion am y cynllun drafft Brexit gyda'r llywodraethau datganoledig cyn ei drafod gyda'i chabinet.

Ond gwrthod y feirniadaeth honno wnaeth Mr Cairns, gan ddweud fod Mrs May wedi gweithredu yn gywir ac mai penderfyniad i Lywodraeth y DU yw'r cytundeb terfynol gyda'r UE.

'Dim dylanwad'

Fore Iau fe wnaeth dau aelod o'r cabinet ymddiswyddo yn dilyn y trafodaethau - yr Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab a'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Esther McVey.

Mae'r Is-weinidog yn Swyddfa Gogledd Iwerddon Shailesh Vara, Is-weinidog yn Swyddfa Brexit Suella Braverman a'r Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Gweinidogion Addysg Anne-Marie Trevelyan hefyd wedi ymddiswyddo yn dilyn penderfyniad y cabinet i gefnogi'r cytundeb drafft.

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi gwrthod y feirniadaeth gan rai bod Llywodraeth y DU wedi ildio yn llwyr i ofynion Brwsel.

Dywedodd fod y cytundeb wedi golygu cyfaddawdu ar y ddwy ochr a'i fod yn hyderus y byddai'n cael cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin.

Image caption Dywedodd Vaughan Gething fod angen cynnal ail bleidlais ar Brexit

Ond dywedodd Mr Gething, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru ac un o'r ymgeiswyr i olynu Mr Jones fel arweinydd Llafur Cymru, fod y cytundeb yn dangos bod angen i Mr Cairns ymddiswyddo.

"Mae'r cytundeb drafft gyda'r UE gafodd ei gyhoeddi gan y Ceidwadwyr yn dangos yn glir nad oes gan Gymru lais na dylanwad wrth fwrdd y cabinet," meddai.

"Ym 585 tudalen y cytundeb drafft, does dim un cyfeiriad at Gymru. Mae hyn yn tanlinellu nad yw'r Ceidwadwyr yn malio am Gymru."

Ychwanegodd bod yr anghydfod ynghylch y cytundeb yn brawf bod angen cynnal ail bleidlais ar Brexit.

'Modd rhannu dogfennau'

Mewn datganiad ddydd Mercher yn ymateb yn benodol i sylwadau Carwyn Jones dywedodd Mr Cairns: "Mae hwn yn bolisi sy'n dod o dan bwerau Llywodraeth y DU. Mae yna ddwy lywodraeth yng Nghymru.

"Dydw i ddim yn dweud wrth Lywodraeth Cymru beth i wneud gyda'r Gwasanaeth Iechyd. Mae hwn yn bolisi Ewropeaidd yn ogystal ag un i Lywodraeth y DU.

"Wrth gwrs gall unrhyw wleidydd o Gymru rhoi cynnig ar fod yn Aelod Seneddol i gael rhan yn y trafodaethau.

"Os bod Carwyn Jones eisiau gwneud hynny, mae yna groeso iddo wneud."

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Carwyn Jones sgwrs ffôn gyda Theresa May nos Fercher, ar ôl i'r cabinet roi sêl bendith i'r cytundeb drafft

Daeth ymateb Mr Cairns ar ôl beirniadaeth Carwyn Jones mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

Dywedodd Mr Jones: "Allai ddeall pam y byddai hi eisiau rhannu'r cytundeb gyda'r cabinet gyntaf. Ond roeddwn i wedi cymryd fod hynny'n digwydd neithiwr a'r bore 'ma.

"Unwaith i'r broses honno gael ei chwblhau fe allai hi fod wedi sicrhau bod modd i ni weld y dogfennau hynny cyn y cyfarfodydd cabinet ffurfiol, achos fel rydw i'n deall roedden nhw i gyd wedi gweld y ddogfen beth bynnag.

"Mae modd o rannu'r dogfennau yma'n breifat, ond dyw hynny ddim wedi cael ei ddefnyddio, ac mae'n golygu mod i'n eistedd fan hyn, fel y mae Prif Weinidog yr Alban a phawb arall, yn ceisio cynnig sylwadau ar rywbeth dydyn ni ddim wedi'i weld."

'Dim hyder'

Dywedodd y cyn-weinidog Ceidwadol, Guto Bebb ddydd Mercher ei fod yn "anodd iawn gweld" sut y gallai gefnogi'r cytundeb.

Mae AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones - sy'n gyn-weinidog Brexit a chyn-Ysgrifennydd Cymru - hefyd ymhlith y rheiny sydd wedi beirniadu'r cytundeb.

"Fydd y cynnig yma ddim yn cael ei basio yn y Senedd, a does dim pwynt parhau gydag o," meddai.

Dywedodd y Blaid Lafur na fyddan nhw'n cefnogi'r cynllun drafft oni bai eu bod yn credu y bydd yn diogelu swyddi a'r economi gyda'r DU yn aros yn rhan o'r Undeb Tollau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu bod am weld y DU yn aros o fewn yr Undeb Tollau a'r farchnad sengl.

Image copyright Reuters

Mae'r Blaid Lafur wedi gofyn am gytundeb sy'n golygu y bydd y DU yn aros yn rhan o'r Undeb Tollau wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Nia Griffith, AS Llanelli a llefarydd Llafur ar amddiffyn: "Does dim hyder gennyf [am y cytundeb drafft] ond byddwn yn ei ystyried, ond ry'n ni ddim yn gallu pleidleisio i rywbeth sy'n ddrwg i Brydain neu rywbeth sydd ddim yn rhoi digon o fanylion."

Yn ymateb i gyhoeddiad Mrs May nos Fercher, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts bod cytundeb Mrs May yn "plesio neb".

Ychwanegodd bod angen pleidlais arall, "gyda'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan bobl Cymru bellach, aros yn yr Undeb Ewropeaidd".

"Mae'n rhaid i ni ganfod ffordd allan o wallgofrwydd Brexit. Mae'r prif weinidog wedi cyfaddef bod 'dim Brexit o gwbl' yn bosibilrwydd," meddai.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol