Dynes wedi marw ar ôl tân yn ei chartref yn Sir Ddinbych

diffoddwr

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau o'r Rhyl ac Abergele wedi cael eu galw i Clos Coronation am 13:02 ddydd Mercher.

Y gred yw bod y ddynes yn ei 60au hwyr. Cafodd diffoddwyr o hyd iddi yn y tŷ a bu farw yno.

Mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau, ond nid yw'r awdurdodau yn credu ei fod yn amheus.