Cyhoeddi enw wedi gwrthdrawiad angheuol ger Llanelli

gwrthdrawiad Image copyright Llun teulu

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A476 rhwng Crosshands a Llanelli.

Roedd Ryan Thomas yn 23 oed ac yn dod o Lanelli.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger pentref Llannon ychydig cyn 01:30 fore Mercher 21 Tachwedd.

Dywedodd yr heddlu fod Mr Thomas, oedd yn gyrru Vauxhall Astra glas, wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu'n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig