Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Nghas-gwent

B4293 Image copyright Google
Image caption Roedd y B4293 yng Nghas-gwent yn parhau ar gau fore Iau

Bu'n rhaid torri dau o bobl yn rhydd o gar fore Iau wedi i'r cerbyd daro coeden yng Nghas-gwent.

Mae'r ddau yn cael triniaeth ar hyn o bryd yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd y B4293 am 02:20 ac mae'r ffordd yn parhau ar gau.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig