'Tôn Drakeford ar Brexit yn ofnadwy,' medd Gething

Eluned Morgan, Mark Drakeford a Vaughan Gething
Image caption Roedd yna anghytuno rhwng yr ymgeiswyr yn y ddadl a ddarlledwyd ar BBC Cymru

Mae tôn un o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru, Mark Drakeford, ar Brexit yn "ofnadwy" yn ôl ymgeisydd arall yn y ras, Vaughan Gething.

Mewn dadl gafodd ei darlledu ar BBC Cymru nos Fercher, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd fod Mr Drakeford yn "anghywir" wrth siarad am baratoi ar gyfer Brexit.

Ond yn ystod yr hystings dywedodd Mr Drakeford fod hynny'n "nonsens" a bod Mr Gething ei hun yn gwneud yr un math o waith o fewn ei adran.

Mae Eluned Morgan, Mr Drakeford a Mr Gething yn ymgeisio i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

'Amddiffyn swyddi a'r economi'

Yn ystod y ddadl dywedodd Mr Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, y bydd yn rhaid i'r prif weinidog nesaf "wneud y gwaith pwysig o baratoi ar gyfer beth sy'n digwydd ar ôl Brexit".

Dywedodd: "Dwi o'r farn y byddai Cymru yn well o fod y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd ond os ydyn ni'n gadael dwi am sicrhau ein bod yn gadael ar dermau sy'n amddiffyn swyddi ac economi Cymru."

Ond ymatebodd Mr Gething drwy ddweud na ddylai'r Blaid Lafur "alluogi Brexit Ceidwadol".

Image caption Dywedodd Vaughan Gething na ddylai'r Blaid Lafur alluogi "Brexit Ceidwadol"

"Mae ei dôn yn ofnadwy," meddai Mr Gething tra'n beirniadu Mr Drakeford.

"Mae'n anghywir siarad am gwblhau'r gwaith os ydym yn gadael, dyna'i gyd ry'n yn ei glywed. Ry'n angen rhyw fath o arweinyddiaeth ar gyfer y dyfodol."

"Nonsens," meddai Mr Drakeford.

Fe wnaeth Ms Morgan ymyrryd trwy ddweud: "Bydden i'n hoffi petai'r dynion yn stopio hyn. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i bobl Cymru."

Dywedodd Mr Gething bod yn rhaid i Lafur "frwydro am bleidlais i'r bobl ar y cynllun terfynol".

Image caption Dywedodd Mark Drakeford bod rhaid i'r prif weinidog nesaf "baratoi ar gyfer beth sy'n digwydd ar ôl Brexit"

Yn ystod y ddadl galwodd Mr Drakeford unwaith yn rhagor am etholiad cyffredinol os nad yw Theresa May yn gallu pasio'r cytundeb drafft drwy'r senedd, ac ychwanegodd os nad yw hynny'n digwydd "bod yn rhaid mynd 'nôl at y bobl a chael refferendwm arall".

"Bydd gadael yr UE yn gwneud Cymru yn dlotach," meddai.

"Mae'n rhaid dod o hyd i ffordd o ddod i delerau ar ganlyniad gwahanol os yw hynny'n bosib, ond ar yr un pryd paratoi'r ffordd ar gyfer beth sy'n digwydd os ydyn ni'n gadael."

Pleidlais newydd oedd dewis Ms Morgan.

"Dwi am i bobl Cymru benderfynu a ydynt eisiau Brexit neu beidio," meddai.

"Byddwn yn cefnogi pleidlais i'r bobl ond byddwn yn gwneud yn glir mai fy mwriad i fyddai arwain ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r dewis gorau i Gymru."

Straeon perthnasol