Cytundeb newydd i Connor Roberts gydag Abertawe

Connor Roberts Image copyright Athena
Image caption Mae Connor Roberts wedi ennill wyth cap dros Gymru

Mae amddiffynnwr Abertawe a Chymru, Connor Roberts wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty tan 2022.

Daeth Roberts trwy academi'r clwb, ac fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf iddynt yn erbyn Wolves ym mis Ionawr.

Mae'r gŵr 23 oed wedi chwarae ym mhob un o gemau'r Elyrch y tymor yma, gan sgorio dwywaith.

Mae'r amddiffynnwr hefyd wedi dod yn chwaraewr cyson i Gymru gan ennill wyth cap ers ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Uruguay 'nôl ym mis Mai.